Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gartrefi'n cael eu datblygu yn hen adeiladau'r cyngor yn Abertawe

Mae ymdrechion i gynyddu tai cyngor newydd yn Abertawe yn parhau, yn dilyn cwblhau set newydd o fflatiau dan berchnogaeth y cyngor yn y ddinas.

eastside dho

Mae Cyngor Abertawe wedi trawsnewid hen swyddfa dai ardal (SDA) yng nghymuned Bôn-y-maen.

Mae'r gwaith diweddaraf yn rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i gynyddu ei stoc dai i bobl sengl a theuluoedd yn ogystal â defnyddio hen adeiladau'r cyngor nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach.

Mae safle hen SDA Eastside bellach yn cynnwys pedair fflat un ystafell wely fodern dros ddwy lawr. Maent i gyd yn elwa o nodweddion modern, gyda cheginau, ystafelloedd ymolchi newydd ac ardaloedd byw eang.

Mae'r datblygiad diweddaraf yn dilyn cwblhau chwe fflat newydd yn hen SDA Pen-lan. Bydd pob un o'r chwe fflat yn darparu llety dros dro mawr ei angen i deuluoedd ac unigolion sy'n aros i gael eu cartrefu mewn cartrefi parhaol.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r gwaith i ailddatblygu'r hen swyddfa dai ardal wedi creu cryn argraff arnaf. Mae timau ein Gwasanaethau Adeiladau a Thai unwaith eto wedi gwneud ymdrech enfawr i drawsnewid yr hyn a oedd yn floc swyddfa a oedd wedi dyddio yn llety mawr ei angen.

"Fel cyngor mae angen taer am gartrefi un ystafell wely arnom, felly croesewir y datblygiad diweddaraf hwn a bydd yn helpu i leihau'r pwysau ar ein rhestr aros am dai.

"Mae'r ailddatblygiad diweddaraf hefyd yn dilyn ein gwaith ailadeiladu llwyddiannus yn SDA Pen-lan lle'r ydym wedi creu cartrefi modern newydd a fydd yn hanfodol i gefnogi ein hymdrechion i ddarparu llety dros dro i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu dau gartref cyngor newydd yn flaenorol, yng nghymuned Gorseinon.

Gorffennwyd y ddau dŷ pâr, tair ystafell wely yn ddiweddar mewn eiddo ar Alexandra Road yng Ngorseinon. Roedd yr adeilad yn hen ganolfan seibiant yr oedd y cyngor wedi nodi nad oedd ei angen mwyach.

Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad a wnaethom i gynyddu a gwella ein stoc dai fel y gallwn leihau rhestrau aros a sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â digartrefedd yn effeithiol.

"Mae ein menter Rhagor o Gartrefi yn ceisio adeiladu 1,000 o dai cyngor ynni effeithlon newydd, o fewn degawd - y prosiect adeiladu tai cyngor mwyaf ers cenhedlaeth."