Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o welliannau ffyrdd yn yr arfaeth yn Abertawe

Disgwylir i ragor o ffyrdd yn Abertawe gael eu hailwynebu yn y Flwyddyn Newydd i helpu i wella a chynnal ffyrdd yn y ddinas.

highway resurfacing

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi pum prif gynllun ail-wynebu priffyrdd ar gyfer rhan gynnar 2024.

Mae'r llwybrau i'w hailwynebu'n cynnwys y system gylchu yng nghyffordd 47 yr M4, Pentrepoeth Road yn Nhreforys, Gorwydd Road - Tre-gŵyr, Ysgubor Fach Road - Waun Wen a St Peter's Road yn Newton.

Mae timau cynnal a chadw'r cyngor wedi bod yn brysur yn 2023 ac wedi cwblhau cyfanswm o 19 o gynlluniau ail-wynebu ar draws Abertawe.

Mae cyfanswm o 72,000 metr sgwâr o darmac wedi'i osod sy'n ymestyn am gyfanswm o fwy na naw cilomedr, gan helpu i gadw ac ehangu bywyd y prif ffyrdd yn y ddinas.

Mae'r cynlluniau a gwblhawyd yn fwyaf diweddar yn cynnwys Fendrod Way yn Llansamlet, Swansea Road yn Llewitha, Swansea Road yng Ngarngoch a Cwm Level Road ym Mrynhyfryd.

Mae'r holl gynlluniau a gwblhawyd ynghyd â'r rhai diweddaraf ar gyfer yn gynnar yn 2024 yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y cyngor yn rhwydwaith ffyrdd y ddinas.

Cymeradwyodd y cyngor fuddsoddiad o fwy na £3 miliwn yn gynnar yn 2023 fel rhan o'i gynlluniau ar gyfer y gyllideb ac ategwyd y cyllid hwn ymhellach gan fuddsoddiad o £2 filiwn a gymeradwywyd ym mis Mehefin.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym wedi buddsoddi symiau sylweddol o gyllid y flwyddyn ariannol hon i sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cadw a chynnal yn iawn.

"Mae ein timau cynnal a chadw priffyrdd wedi gwneud llawer o gynnydd gan weithio'n galed eleni i dargedu'r prif ffyrdd yr oedd angen eu hatgyweirio fwyaf.

"Mae'n bwysig deall na allwn atgyweirio popeth sydd angen ei wneud eleni. Dyna pam mae gennym raglen rheoli priffyrdd bum mlynedd ar waith sy'n arwain ein criwiau i'r ffyrdd y trefnwyd i'w hailwynebu dros y pum mlynedd hynny.

"Nid dyna'r unig beth rydym yn ei wneud wrth atgyweirio ffyrdd. Mae gennym nifer o fentrau atgyweirio ffyrdd ar waith hefyd sy'n ategu'r prif gynlluniau. Mae hyn yn cynnwys rhaglen ar draws y ddinas i fynd i'r afael ag atgyweiriadau ffyrdd llai ym mhob ward yn Abertawe.

"Mae gennym hefyd raglen atgyweirio tyllau yn y ffordd 48 awr sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth atgyweirio mân ddiffygion."

Hyd yn hyn, ers mis Ebrill 2023, mae'r cyngor wedi ymateb i filoedd o adroddiadau gan y cyhoedd ac wedi atgyweirio 4,287 o dyllau yn y ffordd gyda'r rhan fwyaf wedi'u trwsio o fewn yr ymrwymiad 48 awr a roddwyd gan y cyngor.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae'r cyhoedd wedi chwarae rhan enfawr drwy ddweud wrth y cyngor am dyllau yn y ffordd. Ni ellir disgwyl i ni wybod ble mae pob twll yn y ffordd yn y ddinas a gall llawer o ddiffygion ddigwydd dros nos os yw arwynebau ffyrdd yn mynd yn frau. Rwy'n fodlon iawn ar ein hymateb i'r adroddiadau a wnaed gan y cyhoedd ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu cynnal a chadw i'r lefel uchaf bosib.

Close Dewis iaith