Mae amser yn brin i chi archebu basgedi crog
Does dim llawer o amser ar ôl i'r preswylwyr hynny sydd am sicrhau bod ganddynt erddi lliwgar yr haf hwn, gydag ychydig o gymorth gan wasanaeth basgedi crog enwog Cyngor Abertawe.

Mae dros 1,000 o'r basgedi poblogaidd wedi'u gwerthu eisoes a bydd tua 20 planhigyn ym mhob un ohonynt, gan gynnwys petwnias a begonias yn ogystal ag amrywiaeth o flodau lliwgar eraill sy'n hawdd eu trin.
Sul y Mamau yw hi'r penwythnos hwn a gall unrhyw un sy'n archebu basged grog ar gyfer anwylyn lawrlwytho tystysgrif rodd ar gyfer yr unigolyn lwcus.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/basgedicrog am fanylion archebu.