Cyfle i breswylwyr ddweud eu dweud am gynnig ar gyfer cartrefi newydd yn Abertawe
Mae tai cymdeithasol fforddiadwy mawr eu hangen yn cael eu cynnig ar gyfer cymuned yn Abertawe mewn ymdrech i gynyddu cyfleoedd tai cymdeithasol yn y ddinas a mynd i'r afael â phroblemau digartrefedd.
Mae Cyngor Abertawe yn y camau cynnar o ddatblygu 22 o gartrefi newydd ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Ravenhill.
Mae'r ymgynghorwyr cynllunio tai a ddewiswyd gan y cyngor ar gyfer y cynllun - Asbri Planning - wedi dechrau ar ymgynghoriad cyn-cynllunio ac maent yn ceisio barn pobl leol am y cynigion.
Os ydynt yn cael caniatâd i barhau â'r cynnig, bydd y cartrefi newydd yn cynnwys wyth fflat ag un ystafell wely, dau fyngalo â dwy ystafell wely, chwe thŷ â dwy ystafell wely a chwe thŷ â thair ystafell wely.
Mae'r cynnig diweddaraf ar gyfer cartrefi newydd yn rhan o raglen Rhagor o Gartrefi ehangach y cyngor sydd eisoes wedi cwblhau nifer o gynlluniau tai ar draws y ddinas.
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae ein hymdrechion i greu hyd yn oed rhagor o gartrefi cyngor yn Abertawe ar eu camau cynnar iawn.
"Mae'r ymgynghoriad cyn cynllunio'n rhan bwysig o'r broses hon ac yn rhoi cyfle i bobl leol wneud sylwadau ar ein cynlluniau cyn i ni gyflwyno cais cynllunio.
"Yn y gorffennol rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y tai cyngor yn Abertawe fel y gallwn leihau amserau aros ar gyfer pobl sy'n ceisio cael cartrefi mewn cymunedau ar draws y ddinas.
"Bydd y cynllun diweddaraf hwn yn ein helpu yn ein cynlluniau i ddarparu tai i bawb ac i gyflwyno cartrefi newydd a modern sy'n cynnwys technoleg arbed ynni fodern y tu mewn iddynt.
"Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi datblygu hanes ardderchog o ddarparu cartrefi o safon, a rhoi ein dyluniad 'Safon Abertawe' ar waith yn ein cartrefi newydd.
"Bydd y cynllun diweddaraf hwn yn helpu i barhau â'r gwaith gwych a wnaed eisoes yn Abertawe."
Mae ansawdd y tai newydd hefyd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol ac ym mis Medi 2023, enillodd y cyngor y wobr Tîm Gwasanaeth Gorau: Tai, Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau yng Ngwobrau Gwasanaeth Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) 2023 - i gydnabod ei waith parhaus i greu cartrefi newydd, modern ac ynni effeithlon i deuluoedd yn y ddinas
I weld y cynlluniau diweddaraf yn Ravenhill ac i wneud sylwadau arnynt, gall preswylwyr fynd i https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/heol-dynys-ravenhill-swansea-heol-dynys-ravenhill-abertawe/ i ddweud eu dweud cyn 23 Ionawr, 2024.