Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisio barn ar lwybr cerdded a beicio newydd i ganol dinas Abertawe

Gallai llwybr beicio a cherdded diogel newydd gael ei greu ar hyd prif lwybr i ganol dinas Abertawe.

active travel general

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi derbyn arian drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i helpu i ddylunio llwybr cerdded a beicio, gan gysylltu Sgeti ac Uplands â chanol y ddinas.

Mae'r Cyngor bellach wedi cynnig opsiwn dylunio a fyddai'n golygu bod palmentydd a chroesfannau i gerddwyr yn cael eu huwchraddio ar hyd Walter Road a Sketty Road yn ogystal ag yn Uplands.

Byddai'r cynllun arfaethedig hefyd yn cynnwys llwybr beicio dwy ffordd ar wahân parhaus ar hyd y llwybr, gan ei gwneud yn haws i bobl feicio rhwng canol y ddinas a chymunedau Uplands a Sgeti.

Mae rhagor o fannau gwyrdd hefyd yn rhan o'r cynllun arfaethedig, yn ogystal â chynnal coed ar hyd y llwybr.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Sketty Road a Walter Road yn llwybr allweddol i mewn ac allan o ganol y ddinas ac mae'n darparu cysylltiadau â nifer o gymunedau, gan gynnwys Uplands a Sgeti.

"Mae'r cymunedau hyn, ynghyd â chanol y ddinas, yn cynnig ystod eang o gyfleusterau ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael mynediad atynt, gan ddefnyddio pa ddull teithio bynnag y dymunant - boed hynny mewn car, ar gerdded, ar feic neu ar gludiant cyhoeddus.

"Mae ein gwaith parhaus dros y blynyddoedd diwethaf wedi ein galluogi i greu llwybrau cerdded a beicio gwell mewn cymunedau ar draws y ddinas. Mae bellach yn gwneud synnwyr i'r cymunedau hyn gael cyswllt uniongyrchol â chanol y ddinas sy'n ddiogel i gerddwyr a beicwyr.

"Mae'r dyluniadau rydym wedi'u creu yn darparu ateb ardderchog i greu'r cysylltiadau hyn ac rydym am i'r cyhoedd rannu eu barn am y syniadau."

Gofynnir i breswylwyr a busnesau yn y ddwy gymuned, ynghyd â'r cyhoedd ehangach, gymryd rhan a rhoi eu barn ar y cynigion.

Yn ogystal â gweld y cynllun ar-lein yn https://www.abertawe.gov.uk/TeithioLlesolSgetiArUplands, mae cyfres o sesiynau galw heibio hefyd wedi'u trefnu ac anogir y cyhoedd a busnesau lleol i fynd iddynt os gallant.

Bydd timau trafnidiaeth y cyngor wrth law i esbonio'r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau:

  • Dydd Mawrth 30 Ionawr, 1.00pm - 5.45pm - Canolfan Blwyf Sant Paul, De La Beche Road SA2 9AR

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau, bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried cyn gwneud cais pellach i Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i adeiladu'r llwybr newydd.

Close Dewis iaith