Cynllun newydd a fydd yn helpu i wella mynediad i gefn gwlad Abertawe
Mae cynllun tymor hir i wella mynediad cyhoeddus i gyrchfannau gwledig Abertawe wedi arwain at greu dros 45 o gilomedrau o lwybrau newydd yn y cefn gwlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Nawr, mae cynllun deng mlynedd a fydd yn helpu i barhau â'r gwaith hwn ac yn gwella mynediad i rai o ardaloedd cefn gwlad mwyaf poblogaidd Abertawe a Phenrhyn Gŵyr wedi cael ei ddrafftio.
Mae Cyngor Abertawe yn y broses o ddiweddaru ei gynllun presennol, a elwir yn Gynllun Mynediad i Gefn Gwlad Abertawe, a fydd yn cael ei gynnal tan 2033.
Cyhoeddwyd cynllun drafft erbyn hyn ac mae'r cyngor yn galw ar grwpiau, preswylwyr a phobl eraill lleol i fynegi eu barn ar y cynllun cyn iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol.
O fewn y cynllun tymor hir mae gwybodaeth am lwybrau cerdded, llwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffyl sydd eisoes yn bodoli. Bydd y cynllun hefyd yn arwain Tîm Mynediad i Gefn Gwlad y cyngor a sefydliadau eraill tuag at greu llwybrau newydd.
Ar draws Abertawe mae tua 568km o lwybrau troed cyhoeddus ac 80km o lwybrau ceffyl - gyda thua dau draean ohonynt o fewn AoHNE Gŵyr.
O dan y cynllun blaenorol, crëwyd cyfanswm o 72 o lwybrau newydd, gan ymestyn y rhwydwaith llwybrau 45km.
Yn ystod y blynyddoedd blaenorol, roeddent yn canolbwyntio'n bennaf ar gwblhau adran Abertawe a phenrhyn Gŵyr o Lwybr Arfordir Cymru - a oedd yn cynnwys gwella nifer o rannau presennol a hefyd greu llwybrau newydd er mwyn helpu i greu'r llwybr parhaus o amgylch arfordir Abertawe.
Un uchafbwynt o ran y gwelliannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd datblygu rhan hollol hygyrch o lwybr yr arfordir rhwng Limeslade a Rotherslade. Mae'r cyngor yn dymuno ailadrodd gwaith tebyg ar hyd y llwybr rhwng Caswell a Langland os oes cyllid ar gael.
Cwblhawyd gwelliannau ymhellach i'r tir yn flaenorol hefyd, lle cwblhawyd 2km o lwybr troed yn Nyffryn Llandeilo Ferwallt a thrwy hynny cysylltwyd pentrefi Kittle a Llandeilo Ferwallt â Llwybr yr Arfordir.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae rhwydwaith llwybrau Abertawe'n ased gwerthfawr ar gyfer yr economi a lles pobl. Mae'n hanfodol bod gennym gynllun tymor hir sy'n ceisio'i gynnal, ei gadw a'i wella ac sy'n helpu wrth hyrwyddo cerdded, beicio a marchogaeth yng nghefn gwlad prydferth yr ardal.
"Gall annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio/marchogaeth yn y cefn gwlad hefyd helpu'r cyhoedd i gael ymwybyddiaeth well o fioamrywiaeth a'u helpu i fod yn fwy pryderus am amddiffyn eu hamgylchedd lleol.
"Mae AoHNE Gŵyr yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr o'r DU a gwledydd tramor drwy gydol y flwyddyn sy'n ymweld er mwyn mwynhau tirwedd naturiol y ddinas. Mae hyn yn helpu i roi hwb i dwf cynaliadwy'r economi twristiaeth ac yn dangos bod ein rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer ein diwydiant twristiaeth lleol.
Os ydych am fynegi eich barn ar Gynllun Mynediad i Gefn Gwlad drafft 2023-2033, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/CynllunMynediadiGefnGwladDrafft