Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Abertawe yn delio gyda chanlyniadau Storm Isha

Mae Cyngor Abertawe yn mynd i'r afael â'r tarfu a achoswyd gan Storm Isha.

oystermouth road sand

Mae gwyntoedd cryfion sy'n chwythu ar draws Bae Abertawe wedi trawsnewid rhan o brif ffordd brysur y ddinas yn y bae, sef Oystermouth Road, yn briffordd wedi'i gorchuddio â thywod.

Mae Cyngor Abertawe wrthi'n cynllunio gwaith i glirio'r tywod oddi ar y ffordd a'r promenâd gerllaw.

Bu tîm parciau'r Cyngor hefyd yn gweithio drwy nos Sul ac yn gynnar fore dydd Llun i ddelio â nifer o goed bach a changhennau a chwythwyd i lawr yn ystod y storm.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros Isadeiledd a'r Amgylchedd, "Diolch i'r drefn, dim ond fân faterion y mae'n rhaid delio â hwy yn y ddinas yn dilyn Storm Isha. Mae absenoldeb glaw trwm ynghyd â'r gwaith a wnaed yn flaenorol gan y cyngor i glirio cwlferi a chyrsiau dŵr yn golygu na chafwyd llifogydd mawr ar ein ffyrdd.

"Mae ein timau gwasanaethau coed wedi gweithio trwy gydol y nos i ddelio â mân ddifrod gan goed a changhennau sydd wedi cael eu chwythu i lawr ar ffyrdd.

"Mae tywod wedi cael ei chwythu hefyd o Fae Abertawe i'r ffordd ar hyd Oystermouth Road. Mae gwaith blaenorol ar y traeth i liniaru faint o dywod sy'n cael ei chwythu i'r brif ffordd yn golygu bod llai i ddelio ag ef nag yn y blynyddoedd blaenorol.Byddwn yn clirio'r tywod o'r prom a'r ffordd cyn gynted â phosib."

 

Close Dewis iaith