Toglo gwelededd dewislen symudol

Perchennog clwb a busnes yn cael dirwy ar ôl gwrthdrawiad bygi ar gwrs golff.

Mae The Gower Golf Course Ltda pherchennog The Gower Golf Clubwedi pledio'n euog i dorri rheoliadau iechyd a diogelwch yn y gweithle ar ôl i un o'i weithwyr gael ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad ar y cwrs mewn bygi cynnal a chadw.

gower golf club

Glaniodd Matthew Neve mewn ffos, gan ddioddef anafiadau i'w ben, ei goes a'i gefn ar ôl i'r brêcs fethu ar y bygi cynnal a chadw Kawasaki Mule yr oedd yn ei yrru.

Dywedwyd wrth ynadon Abertawe mewn gwrandawiad ar 24 Ionawr 2024 fod motor y cerbyd wedi parhau i redeg hyd yn oed pan ddiffoddodd e'r taniad mewn ymgais ofer i atal gwrthdrawiad.

Roedd perchennog y clwb golff, Adrian Richards, sydd hefyd yn unig gyfarwyddwr y cwmni, wedi pledio'n euog ar ei ran ei hun a'r cwmni i bum cyhuddiad iechyd a diogelwch yn ymwneud â'r digwyddiad a thoriadau eraill a nodwyd ar y safle.

Ar wahân, plediodd Mr Richards a'r cwmni yn euog i chwe throsedd hylendid bwyd, gan gynnwys methu darparu basnau ymolchi i staff er mwyn cadw eu dwylo'n lân, methu sicrhau bod dŵr rhedegog poeth ac oer ar gyfer glanhau offer cegin a methu sicrhau bod safleoedd bwyd yn cael eu glanhau a'u cynnal.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r clwb gael ei erlyn a gorfod mynd i'r llys oherwydd troseddau hylendid bwyd. Fe'i herlynwyd yn 2011 ac yn 2017 am broblemau tebyg mewn perthynas â glendid a diogelwch bwyd.

Daethpwyd â'r erlyniadau gan dîm bwyd a diogelwch Cyngor Abertawe a dygwyd y cyhuddiadau'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a hylendid bwyd yn erbyn Mr Richards a chwmni The Gower Golf Club ei hun.

Gorchmynnwyd Gower Golf Course Ltd i dalu £25,260 i gyd mewn dirwyon a chostau a gorchmynnwyd y cyfarwyddwr i dalu £2,700 mewn dirwyon a gordal dioddefwr o £190.