Toglo gwelededd dewislen symudol

Dioddefwyr yn colli miloedd o ganlyniad i gynnydd mewn sgamiau 'rhamant' yn Abertawe

Mae'r cyhoedd yn cael ei annog i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd mewn cwynion sy'n gysylltiedig â 'sgamiau rhamant' yn Abertawe.

Mae'r tîm Safonau Masnach yn y ddinas wedi derbyn mwy na 30 o alwadau gan ddioddefwyr yn y misoedd diwethaf.

Amcangyfrifir bod hyd at filiwn o bunnoedd wedi cael ei dalu gan y dioddefwyr i'r twyllwyr, sydd wedi twyllo unigolion i gredu eu bod yn cael perthynas ramantus ar-lein.

Meddai Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, Rhys Harries, "Yn flaenorol rydym wedi derbyn nifer bach iawn o gwynion mewn perthynas â sgamiau rhamant. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y mathau hyn o gwynion yn y misoedd diwethaf a dros gyfnod y Nadolig.

"Mewn rhai achosion, mae dioddefwyr wedi rhoi cannoedd ar filoedd o bunnoedd i unigolion dirgel ar-lein sydd wedi eu perswadio eu bod mewn perthynas â nhw, ac wedi ennill eu hymddiriedaeth.

"Mae'r wybodaeth rydym yn ei derbyn yn dorcalonnus ar gyfer y rheini sydd wedi cael eu twyllo oherwydd y symiau mawr o arian dan sylw. Mae hefyd wedi bod yn anodd iawn adennill yr arian oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r arian yn cael ei drosglwyddo i wledydd eraill."

Mae swyddogion Safonau Masnach yn y ddinas wedi cynnal sesiynau hyfforddi gyda banciau lleol yn ddiweddar, i roi cyngor iddynt ynghylch yr hyn i gadw llygad amdano os yw'n ymddangos bod cwsmeriaid y banc yn trosglwyddo symiau mawr o arian.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, "Mae'r cynnydd mewn cwynion o'r natur hon yn frawychus iawn, felly rydym yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus os ydynt yn siarad â phobl ar-lein nad ydynt wedi cwrdd â nhw wyneb yn wyneb.

"Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol bod y person rydych wedi cwrdd ag ef ar-lein yn dweud y gwir am ei hunaniaeth. Bydd twyllwyr yn mynd i drafferth i'ch perswadio bod y berthynas yn un go iawn, ac yn dylanwadu arnoch er mwyn i chi roi arian iddynt.

"Mae'r rheini yr effeithiwyd arnynt sydd wedi adrodd am hyn i Safonau Masnach yn amlwg yn bryderus iawn, ac yn teimlo cywilydd am yr hyn sydd wedi digwydd.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i helpu'r bobl hyn ac rydym yn gobeithio y bydd ein cyngor hefyd yn atal hyn rhag digwydd i eraill."

 Arwyddion rhybuddio y gall fod yn sgam rhamant

  • Maent yn mynegi teimladau cryf ar eich cyfer yn gyflym ac mae'r berthynas yn datblygu'n gyflym. Maent yn gwneud i chi deimlo'n arbennig yn gyflym.
  • Os ydych yn sgwrsio ar eich llwyfan cyfryngau cymdeithasol arferol neu drwy wasanaeth canlyn swyddogol, byddant yn ceisio parhau â'r sgwrs drwy ffynhonnell arall, er enghraifft WhatsApp.
  • Bydd twyllwyr rhamant yn eich perswadio i gadw'r berthynas yn gyfrinach ac yn dylanwadu arnoch, fel eich bod ond yn ymddiried ynddyn nhw. Efallai y byddant yn ceisio'ch arwahanu rhag eich teulu a'ch ffrindiau.
  • Bydd bob amser esgus ganddynt dros pam na allant gwrdd yn bersonol, neu ddangos eu hunain ar gamera. Maent yn dweud eu bod yn byw tramor neu yn rhywle anghysbell, neu nad yw eu technoleg yn gweithio.

Os ydych yn teimlo eich bod yn ddioddefwr sgam rhamant, gallwch adrodd amdano i: linell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu Action Fraud

Close Dewis iaith