Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ar gyfer gwasanaethau bysus lleol yn Abertawe

Mae gwasanaethau bysus hanfodol yn Abertawe sy'n darparu llwybrau cludiant cyhoeddus i ysbytai, lleoliadau hamdden a chanol y ddinas ac oddi yno, yn cael eu hamddiffyn am y pum mlynedd nesaf.

free bus survey

Disgwylir i Gyngor Abertawe gymeradwyo cynlluniau i fuddsoddi mwy nag £1 miliwn mewn gwasanaethau bysus lleol yn 2024, gan sicrhau nad yw teithiau bws hanfodol ar gyfer y cyhoedd sy'n teithio yn diflannu.

Mae llwybrau gan gynnwys canol y ddinas i Ysbyty Treforys, bysus rheolaidd rhwng Pennard a chanol y ddinas, ynghyd â gwasanaethau bysus ar draws y ddinas yn ystod nosweithiau Sul i gyd yn rhan o gynlluniau'r cyngor i gynnal gwasanaethau o 2024 i 2028.

Bob blwyddyn mae'r Cyngor yn cymorthdalu gwasanaethau cludiant cyhoeddus y mae cwmnïau bysus yn dweud nad ydynt yn fasnachol dichonadwy, ac yn sicrhau eu bod yn parhau ar gyfer preswylwyr sy'n dibynnu ar fysus ar gyfer teithio i'r gwaith, ymweld â'r ysbyty, neu ymweld â theulu.

Ar gyfer 2024, mae pob un o'r 26 o gontractau a oedd yn cael eu cymorthdalu'n flaenorol yn cael eu cynnal, ynghyd â 7 contract newydd ar gyfer gwasanaethau a oedd mewn perygl o gael eu hatal gan weithredwyr cludiant.

Mae cyfanswm o £1,080,600.00 yn cael ei ddarparu gan y Cyngor i weithredwyr cludiant cyhoeddus, ynghyd â £2,515,095.24 pellach drwy raglen ariannu cymhorthdal bysus Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25. 

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Bob blwyddyn, mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mewn gwasanaethau bysus lleol na fyddent fel arall yn cael eu gweithredu gan weithredwyr bysus. Rydym yn ystyried y gwasanaethau hyn fel rhai sy'n 'gymdeithasol angenrheidiol', sy'n golygu ni waeth beth yw eu gwerth masnachol, maent yn darparu gwasanaethau cludiant hanfodol i lawer o breswylwyr yn ein dinas.

"Heb barhau â'r gwasanaethau hyn, ni fyddai llawer o bobl yn gallu mynd i apwyntiadau ysbyty, teithio i'w gweithle yng nghanol y ddinas nac ymweld â theulu a ffrindiau.

"Rydym yn ystyried y gwasanaethau hyn fel rhai hanfodol ar gyfer preswylwyr a dyna pam rydym yn ymrwymo i'w cefnogi am bum mlynedd arall.

"Ein nod yw cefnogi gweithredwyr cludiant ac annog mwy o bobl i ddefnyddio bysus, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn cael eu hamddiffyn yn y tymor hir."

Mae'r adroddiad i'r Cabinet ar 15 Chwefror hefyd yn cynnwys cynlluniau i fuddsoddi bron £250 mil er mwyn parhau â gwasanaethau Parcio a Theithio yn 2024/25.

Close Dewis iaith