Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau cerdded a beicio newydd yn cael eu hychwanegu at rwydwaith Abertawe

Mae beicwyr a cherddwyr sy'n ceisio dechrau'r flwyddyn newydd gyda ffordd iach o fyw, bellach yn gallu defnyddio rhagor o lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe.

active travel general

Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi'r cyffyrddiadau olaf i nifer o lwybrau. gan ychwanegu at rwydwaith cynyddol y ddinas o isadeiledd cerdded a beicio diogel.

Mae llwybr 2.8km oddi ar y ffordd rhwng Penlle'r-gaer a Gorseinon ymysg y llwybrau diweddaraf i'w cwblhau. Mae'r llwybr yn teithio ar hyd yr heol fawr rhwng y ddwy gymuned (Gorseinon Road) gan ddarparu'r cyswllt coll rhwng llwybrau a gwblhawyd yn flaenorol, yn syth i mewn i Dreforys, o Gyffordd 47 (M4), ar hyd yr A48. Mae hefyd yn cysylltu llwybrau rhwng Gorseinon a Phontybrenin/Tre-gŵyr.

Mae llwybr a phalmentydd sydd newydd gael eu gosod hefyd ar gael bellach ar hyd Ynysallan Road ac mae'n rhoi gwell mynediad i breswylwyr sy'n byw yn stad Parc Bryn Heulog gerllaw i gymunedau ehangach ar ôl byw heb balmant yno ers blynyddoedd lawer.

Mae'r cynllun sydd wedi'i gwblhau bellach yn golygu y gall preswylwyr sy'n dod allan o Herbert Thomas Way wneud eu ffordd i'r cyfeiriad arall, i Ynystawe,

Bydd rhieni sy'n byw yn y lleoliad a chanddynt blant sy'n mynd i ysgolion yn Ynystawe o'r diwedd yn gallu cerdded a beicio yn lle defnyddio'r car.

Mae'r ddau gynllun newydd yn rhan o ymdrechion cyfredol y cyngor i ehangu'r ddarpariaeth llwybrau cerdded a beicio ar draws Abertawe ac fe'u hariennir drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae hyn yn newyddion da i bawb sydd am gael yr opsiwn o gerdded a beicio i deithio yn eu cymuned.

"Bob blwyddyn rydym yn ychwanegu at ein rhwydwaith bythol gynyddol o isadeiledd cerdded a beicio, gan ddarparu llwybrau oddi ar y ffordd diogel i deuluoedd eu defnyddio a chadw'n iach.

"Nid ydym yn canolbwyntio'n unig ar ddarparu isadeiledd beicio o fewn cymuned - rydym hefyd am sicrhau ein bod yn cysylltu cymunedau cyfagos fel y bydd y cyhoedd yn y pen draw'n gallu teithio unrhyw le yn Abertawe ar feic neu ar droed.

"Mae'r llwybrau diweddaraf i'w cwblhau'n darparu cysylltiadau hanfodol rhwng cymunedau, gan gynnig opsiynau teithio diogel i bawb."

Mae cynlluniau Teithio Llesol y dyfodol sydd ar y gweill hefyd yn cynnwys dyluniadau cynnar ar gyfer llwybr yng nghanol y ddinas ar hyd Walter Road/Sketty Road.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae canol y ddinas yn gyrchfan allweddol i lawer o bobl sy'n teithio o gymunedau yn Abertawe ac rydym am roi opsiynau i'r cyhoedd o ran sut maen nhw'n cyrraedd yno.

"Gallai'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer Walter Road a Sketty Road roi'r cyfle i ni greu llwybr beicio dynodedig i mewn i ganol y ddinas i breswylwyr sy'n byw yn Uplands, Sgeti ac ymhellach."

 

Close Dewis iaith