Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Tair ardal chwarae newydd yn agor i ieuenctid y ddinas

Bydd plant mewn tair cymdogaeth yn y ddinas yn cael bonws hanner tymor diolch i welliannau i ardaloedd chwarae sydd newydd eu cwblhau gan y cyngor.

jersey park play area

Parc Trefansel yn Nhrefansel, Parc Jersey yn Port Tenant ac ardal chwarae Yalton yn West Cross yw'r ardaloedd chwarae diweddaraf i elwa o raglen uwchraddio'r cyngor sy'n werth £7m.

Mae'r newyddion diweddaraf yn dilyn agor ardaloedd ym Mhlasmarl, Gendros, Pontlliw, Canolfan y Ffenics yn Townhill, Parc Brynmill, DFS yn Nhreforys, Blaen-y-maes a Chlydach ychydig cyn y Nadolig.

Mae hyn yn golygu bod dros 50 o gymdogaethau o gwmpas y ddinas wedi elwa o'r prosiect adnewyddu ardaloedd chwarae sydd fel arfer yn cynnwys cyfleusterau i bobl ifanc anabl fel rowndabowtiau sy'n gyfwastad â'r llawr, llithrennau llydan, siglenni basged a byrddau cyfathrebu.

 

Close Dewis iaith