Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun goleuo arfordirol yn dod i ben

​​​​​​​Mae cynllun i osod goleuadau newydd ar hyd un o arfordiroedd mwyaf enwog Cymru bron wedi'i gwblhau.

Prom Lights

Prom Lights

Disgwylir i bromenâd golygfaol Bae Abertawe o'r Mwmbwls hyd at faes chwaraeon San Helen gael ei oleuo gyda'r hwyr.

Mae miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr yn defnyddio'r llwybr cerdded a beicio poblogaidd bob wythnos.

Mae Cyngor Abertawe'n gosod mwy na 300 o oleuadau bolard LED ynni effeithlon ar hyd y llwybr cerdded a beicio poblogaidd fel y gall y rheini sy'n defnyddio'r llwybr deimlo'n fwy diogel gyda'r hwyr.

Mae'r goleuadau bolard lefel isel yn cael eu gosod pob 14m ar hyd y prom, yn dilyn buddsoddiad o dros £400,000. Disgwylir i bob golau ynni effeithlon gostio £15 y flwyddyn yn unig i'w ddefnyddio.

Gwnaed y gwaith fesul cam ac mae bolardiau bellach wedi'u gosod ar hyd llwybr y prom rhwng gwaelod Brynmill Terrace a The Secret Beach Bar & Kitchen. Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r promenâd yn croesawu miloedd o bobl bob wythnos. Mae'r goleuadau'n golygu y gallant dreulio mwy o amser yn mwynhau awyr y môr a'r golygfeydd godidog.

"Dewiswyd y goleuadau am eu bod yn ynni effeithlon ac yn ddull cost-effeithiol o wella'r llwybr, ac yn helpu pobl i deimlo'n fwy diogel gyda'r hwyr."

Llun: Golau bolard yn San Helen.