Toglo gwelededd dewislen symudol

Safonau Masnach yn atafaelu gwerth £1.5million o e-sigaréts anghyfreithiol

Yr wythnos hon, cynhaliodd Safonau Masnach Cyngor Abertawe gyrch fel rhan o'u gweithredoedd cyfredol ar gyfer 'Ymgyrch Thor', i fynd i'r afael â gwerthiant e-sigaréts anghyfreithiol yn y ddinas.

illegal vapes

Roedd ein cynlluniau diweddaraf yn cynnwys cyrchoedd ar nifer o fangreoedd busnes yn ardal Llundain Fwyaf.

Cefnogwyd Safonau Masnach gan heddweision o'r Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu Dyffryn Tafwys yn ystod yr ymgyrch.

Atafaelwyd mwy na 120,000 o e-sigaréts yr amcangyfrifwyd eu bod yn werth £1.5 miliwn ar y stryd.

Mae'r gweithredoedd diweddaraf yn dilyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn dyn busnes o Abertawe a gafodd ei garcharu'n ddiweddar am werthu e-sigaréts anghyfreithiol yn y ddinas.

Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, "Mae ein gweithredoedd diweddaraf yn rhan o ymgais ehangach i atal llif e-sigaréts anghyfreithiol yn Abertawe ac o bosib mewn rhannau eraill o'r rhanbarth.

"Rwy'n fodlon ar y canlyniadau hyd yn hyn. Mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i ganolbwyntio arno er mwyn atal e-sigaréts anghyfreithiol rhag cael eu gwerthu, yn enwedig i blant iau."

 

Close Dewis iaith