Toglo gwelededd dewislen symudol

Arbenigedd prifysgolion i hybu digwyddiad dechrau busnes am ddim

Mae'r ddwy brifysgol yn Abertawe yn cefnogi digwyddiad am ddim fis nesaf gyda'r nod o arwain, ysbrydoli a chefnogi pobl fusnes uchelgeisiol y ddinas.

Business meeting

Business meeting

Cynhelir digwyddiad Expo Busnesau Newydd Abertawe yn Arena Abertawe ddydd Mercher, 6 Mawrth.

Bydd sesiwn yn ystod y dydd o 2pm i 5pm, a sesiwn gyda'r hwyr o 5pm i 8pm.

Bydd yn cynnwys sgyrsiau gan entrepreneuriaid a gweithdai a arweinir gan arbenigwyr ar bynciau fel grantiau a chyllid, cyflogi pobl, marchnata, cynllunio busnes a dod o hyd i'r fangre iawn.

Yn seiliedig ar syniad a ddatblygwyd gan BID Abertawe (Ardal Gwella Busnes), mae'r digwyddiad siop dan yr unto yn cael ei drefnu gan 4TheRegion mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe.

Menter ddiweddaraf PCYDDS i gefnogi datblygiad a thwf busnesau newydd yw'r prosiect Scale, sy'n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'i weinyddu gan Gyngor Abertawe. Bydd yn rhedeg drwy gydol 2024, gan gefnogi mentrau, entrepreneuriaid a graddedigion yn Abertawe.

Meddai'r athro Ian Walsh, Profost campysau PCYDDS Abertawe a Chaerdydd, "Mae meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, bod yn hyblyg wrth ymateb i heriau a chyfleoedd, yn ogystal â deall busnes a chynaladwyedd yn allweddol ac maent yn ein helpu i ddatblygu gyrfaoedd ein dysgwyr ym mha bynnag faes y maent yn ei ddewis, ac mae sgiliau o'r fath wedi'u gwreiddio yn ein rhaglenni a'n prosiectau.

"Mae PCYDDS yn falch o noddi'r digwyddiad arloesol hwn er mwyn cefnogi twf busnesau yn y rhanbarth."

Meddai'r Athro Peter Dunstan, Dirprwy Is-ganghellor Cyfnewid Gwybodaeth, Menter a Phartneriaethau Prifysgol Abertawe, "Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe fod yn un o bartneriaid yr Expo Busnesau Newydd.

"Fel prifysgol rydym yn aros yn ffyddlon i uchelgeisiau ein sylfaenwyr dros 100 mlynedd yn ôl, i gefnogi'r ddinas a'r rhanbarth ehangach gyda'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arbenigedd i ffynnu."

Ewch yma i gael tocynnau am ddim i ddigwyddiad Expo Busnesau Newydd Abertawe.

Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Close Dewis iaith