Polisi newydd yn ceisio mynd i'r afael â llwydni a lleithder mewn cartrefi yn Abertawe
Mae preswylwyr sy'n byw mewn adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe'n derbyn cymorth i amddiffyn eu cartrefi rhag llwydni a lleithder.
Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi polisi 'Lleithder a Llwydni' newydd ar waith a fydd yn helpu tenantiaid i fynd i'r afael â phroblemau llwydni, sydd yn aml yn cael eu hachosi gan gyddwysiad yn eu cartrefi.
Mae gofyn i bob darparwr tai cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys cynghorau, gyhoeddi a mabwysiadu polisi lleithder a llwydni, gan nodi sut y byddant yn sicrhau bod adeiladau sy'n eiddo iddynt yn glir o broblemau lleithder a llwydni ac yn helpu i sicrhau nad yw iechyd tenantiaid mewn perygl.
Y llynedd roedd Cyngor Abertawe wedi creu tîm cynnal a chadw dynodedig a fyddai'n ymateb yn gyflym ac yn effeithiol er mwyn mynd i'r afael â chwynion am lwydni neu leithder mewn tai cyngor.
Mae creu'r tîm wedi arwain at leihad yn nifer y cwynion y mae'r Cyngor wedi'u derbyn gan denantiaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi sicrhau yr aethpwyd i'r afael â phroblemau sy'n codi'n gyflym.
Mae'r polisi lleithder a llwydni newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor bellach yn cynnwys cynlluniau i sicrhau y caiff unrhyw gwynion a dderbynnir eu harchwilio o fewn pum niwrnod gwaith i dderbyn y cwyn a chaiff yr holl waith i drin problemau lleithder a llwydni eu cwblhau o fewn 20 diwrnod i'r archwiliad cychwynnol - lle bo hynny'n ymarferol.
Mae'r Cyngor eisoes wedi cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn ei 13,000 o gartrefi, gan osod ceginau, ystafelloedd ymolchi a ffenestri newydd, yn ogystal â gosod toeau newydd a chwblhau gwaith atal lleithder allanol er mwyn helpu i leihau'r risgiau o leithder mewn cartrefi a helpu i'w gwneud yn fwy cynnes.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi miliynau i uwchraddio tai Cyngor fel eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
"Rydym wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd sy'n byw yn ein dinas, gan ddarparu cartrefi diogel, cynnes i bobl fyw ynddynt.
"Mae ein Tîm Cynnal a Chadw Tai eisoes yn ymateb i alwadau am broblemau lleithder a llwydni ac yn gwneud y gwaith lle mae ei angen.
"Bydd mabwysiadau ein polisi newydd yn mynd â'n hymrwymiad hyd yn oed ymhellach er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn byw mewn cartrefi cynnes a diogel.
"Mae problemau lleithder yn cael eu lleihau gan ein gwelliannau. Rydym hefyd wedi bod yn cynghori tenantiaid am yr angen i leihau cyddwysiad yn eu cartrefi, oherwydd gall hyn hefyd arwain at broblemau gyda llwydni."
Mae gwedudalen ddynodedig hefyd wedi'i gosod ar brif wefan y Cyngor sy'n darparu cyngor ac awgrymiadau i ymdrin â llwydni https://www.abertawe.gov.uk/problemauanweddtenantiaid