Uwchraddio goleuadau traffig ar gyffordd boblogaidd yr M4
Mae gwelliannau mawr yn yr arfaeth ar gyfer un o'r cyffyrdd traffordd prysuraf yn Abertawe.
Disgwylir i Gyngor Abertawe newid y goleuadau traffig sy'n heneiddio ar gyffordd 47 yr M4.
Yn unol ag uwchraddiadau a gwblhawyd yn agosach at ganol y ddinas, mae'r Cyngor yn bwriadu gosod CCTV ar y gyffordd boblogaidd er mwyn galluogi gweithredwyr traffig i fonitro symudiadau traffig ar draws y gyffordd yn ofalus.
Bydd y gwaith uwchraddio gwerth £112,000 hefyd yn cynnwys bylbiau golau rhad-ar-ynni newydd, monitro traffig mewn amser go iawn a gosod mesurau blaenoriaethu bysus i helpu i wella dibynadwyedd ar gludiant cyhoeddus.
Bydd gwaith ychwanegol yn cael ei gwblhau er mwyn ychwanegu croesfan twcan newydd i gerddwyr, a fydd yn darparu cyswllt diogel rhwng dwy ran o'r isadeiledd cerdded a beicio Teithio Llesol.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r goleuadau traffig wedi bod ar waith ar gyffordd 47 ers nifer o flynyddoedd ac maent yn agos at ddarfod.
"Mae'n hanfodol ein bod yn newid y goleuadau traffig wrth y gyffordd brysur hon i sicrhau y gall fodurwyr symud yn rhydd rhwng y gyffordd am flynyddoedd i ddod, yn ogystal ag arbed arian ar gostau ynni drwy ddefnyddio bylbiau newydd sy'n costio tua degfed pris y bylbiau halogen presennol.
"Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau llwybr cerdded a beicio newydd rhwng Penlle'r-gaer a Gorseinon ac roedd hwn yn gyswllt hanfodol i'r llwybr a gwblhawyd yn flaenorol ar hyd yr A48 tuag at Dreforys. Bydd y gwaith ychwanegol a gynlluniwyd fel rhan o'r cynllun hwn yn sicrhau bod cyfleusterau croesi'n cael eu gosod i sicrhau y gall beicwyr a cherddwyr groesi'r gyffordd yn ddiogel."
Bydd y gwaith uwchraddio diweddaraf i'r gyffordd hefyd yn dilyn gwaith ail-wynebu arfaethedig yn y lleoliad.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae timau cynnal a chadw priffyrdd ar y safle ar hyn o bryd yn ail-wynebu'r gyffordd gyfan fel rhan o'n rhaglen cynnal a chadw arfaethedig.
"Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol yn ein rhwydwaith priffyrdd ar draws Abertawe."
Disgwylir i'r cynllun adnewyddu goleuadau traffig arfaethedig ddechrau ar 4 Mawrth, a bwriedir i'r gwaith gael ei wneud y tu allan i oriau brig ac yn ystod y nos er mwyn osgoi tarfu ar fodurwyr.
Meddai'r Cynghorydd Stevens; "Unrhyw bryd rydym yn newid goleuadau traffig, mae hefyd angen cyflwyno goleuadau traffig dros dro. Ein nod yw cwblau'r gwaith y tu allan i oriau brig traffig a sicrhau cyn lleied o darfu â phosib."