Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg llogi a pharcio beiciau wedi'i lansio yn Abertawe

Mae cynlluniau newydd ar waith i greu cyfleusterau parcio beiciau mwy diogel ar draws Abertawe.

cycling woman

Mae Cyngor Abertawe yn galw ar feicwyr i gysylltu drwy arolwg newydd a dweud wrth y cyngor ble maent am weld cyfleusterau parcio a storio diogel newydd.

Mae'r cynlluniau yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i greu isadeiledd beicio gwell ledled y ddinas a chaiff ei ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae dau hwb storio beiciau diogel wedi'u creu yn flaenorol yn safle Parcio a Theithio Fabian Way ac yng Ngorsaf Fysus y Cwadrant - y mae'r ddau ohonynt yn cynnwys man storio beiciau diogel a gorsafoedd atgyweirio beiciau.

Nawr mae'r Cyngor am wybod ble yr hoffai'r cyhoedd weld cyfleusterau tebyg ledled y ddinas.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym eisoes wedi creu cyfleusterau storio beiciau diogel mewn hybiau cludiant cyhoeddus allweddol yn y ddinas gan gynnwys ein prif orsaf fysus a safle Parcio a Theithio Fabian Way. Mae'r rhain yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddefnyddio beic i deithio rhan o'u ffordd, neu'r holl ffordd i Abertawe.

"Ein nod yw creu gwell cyfleusterau parcio beiciau mewn cymunedau ledled y ddinas ac rydym am i'r cyhoedd ddweud wrthym pa leoedd fyddai'n ddelfrydol ar eu cyfer."

Ynghyd â chreu opsiynau parcio newydd, mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ar ddyfodol llogi beiciau ar gyfer Abertawe.

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn gweithredu cynllun llogi beiciau Santander, sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd logi beiciau ar hyd llwybr penodol rhwng y Mwmbwls a Champws y Bae Prifysgol Abertawe

Mae'r Cyngor yn bwriadu datblygu achos busnes ar gyfer cynllun llogi beiciau ehangach a fyddai o bosib yn cysylltu rhwng canol y ddinas a chymunedau lleol.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae'r Cyngor gyda chymorth gan Gronfa Teithio Llesol LlC, wedi datblygu ystod eang o lwybrau beicio a cherdded ar draws y ddinas. Rydym am i gynifer â phosib o bobl i ddefnyddio'r llwybrau hyn.

"Bydd datblygu cynllun llogi beiciau ehangach yn helpu i roi cyfle i'r cyhoedd nad ydynt yn berchen ar feic ddefnyddio'r llwybrau hyn fel ffordd o deithio o gwmpas y ddinas.

Os ydych am gymryd rhan yn yr arolwg diweddaraf ar gyfer parcio beiciau a llogi beiciau, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/TeithioLlesolBeiciau

 

Close Dewis iaith