Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd o fêps anghyfreithlon yn cael eu darganfod mewn byncer yr Ail Ryfel Byd diddefnydd mewn gardd yn Abertawe.

Mae fêps anghyfreithlon sy'n werth dros £47,000 ar y stryd wedi cael eu darganfod mewn byncer yr Ail Ryfel Byd diddefnydd mewn gardd yn Abertawe.

illegal vapes

Daeth Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Abertawe o hyd i'r fêps anghyfreithlon yn ystod chwiliad o siop leol, yr amheuwyd ei bod yn gwerthu fêps anghyfreithlon a thybaco ffug. 

Yn ystod y chwiliad o'r byncer daethpwyd o hyd i sigaréts a thybaco ffug hefyd.

Yn ystod ail ymgyrch yng nghanol y ddinas, a oedd yn defnyddio cŵn canfod tybaco sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, atafaelwyd tybaco a fêps anghyfreithlon a oedd yn cael eu storio mewn caban cudd a adeiladwyd at y diben o fewn siop.

Mae ymchwiliadau i'r ddau achos bellach yn mynd rhagddynt ac maent yn debygol o arwain at ffïoedd ar gyfer y ddau berchennog siop.

Mae'r nwyddau diweddaraf a atafaelwyd yn rhan o ymgyrch parhaus y Cyngor i fynd i'r afael â gwerthu fêps anghyfreithlon, ac mae'n dilyn ymgyrch ddiweddar lle gwnaeth Safonau Masnach Abertawe ymweld â chyfleuster storio yn Llundain, gan ddod o hyd i dros £1.5 miliwn o fêps anghyfreithlon.

Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach y Cyngor, "Mae'r wybodaeth a roddwyd i ni gan ddefnyddwyr pryderus yn ein helpu ni i olrhain busnesau yn y ddinas sy'n gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon.

"Rydym wedi cael amser prysur iawn yn ymchwilio i nifer o achosion ac wedi bod yn llwyddiannus iawn yn erlyn nifer o bobl dros y misoedd diwethaf.

"Mae ein canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod pobl yn fodlon mynd i drafferth i geisio cuddio'r cynnyrch anghyfreithlon diweddaraf hwn, ac felly rydym yn ceisio aros un cam o'u blaenau a defnyddio'n gwybodaeth a'n sgiliau i ddod o hyd iddynt."

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol: "Mae'r ymgyrch ddiweddaraf hon wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth darfu ar rai o'r gwerthiannau anghyfreithlon i ddefnyddwyr yn ein dinas.

"Y rheswm dros lwyddiant ein hymgyrch yn rhannol yw'r wybodaeth rydym wedi'i chael gan y cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i fynegi pryder am siopau sy'n dal i werthu fêps i blant dan oed.

"Byddwn yn annog y cyhoedd i barhau i gysylltu â'n Tîm Safonau Masnach os ydynt yn pryderu am siop sy'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon yn eu cymuned. Byddwn yn parhau i weithredu i amddiffyn pobl ifanc yn Abertawe."

Mae arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Vape Club wedi dangos bod Cyngor Abertawe wedi atafaelu mwy o fêps anghyfreithlon na phob Cyngor arall yng Nghymru yn 2023.

Ychwanegodd Mr Harries, "Cawsom amser prysur iawn yn 2023 yn mynd i'r afael â gwerthiannau fêps anghyfreithlon ac rydym yn disgwyl y byddwn wedi atafaelu llawer mwy yn 2024."

Close Dewis iaith