Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal chwarae newydd sbon i blant o gymuned yn Abertawe.

Parc Rees Row, sydd gyferbyn ag Ysgol Gynradd Plas-marl, yw'r parc diweddaraf i elwa o raglen uwchraddio ardaloedd chwarae gwerth £7 miliwn ar draws y ddinas gyfan, sydd hefyd wedi gweld tair ardal chwarae arall yn cael eu huwchraddio'n ddiweddar ym Mharc Trefansel yn Nhrefansel, Parc Jersey ym Mhort Tennant ac ardal chwarae Yalton yn West Cross.

rees row play area

Helpodd disgyblion Ysgol Gynradd Plas-marl i dorri'r rhuban coch ar gatiau'r parc newydd cyn rhuthro i gael hwyl ar y cyfarpar hygyrch newydd.