Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o deuluoedd i elwa o welliannau i'w cartrefi dan gynllun gwerth £55m

Daeth cynlluniau i uwchraddio fflatiau uchel yn Nyfaty gam yn nes wrth i gynlluniau ar gyfer buddsoddiad gwerth £55m mewn cartrefi cyngor gael eu cymeradwyo gan Gyngor Abertawe.

west cross circle

Mae cyllid hefyd wedi'i flaenoriaethu ar gyfer adfywio stad Tudno ac Emrys ym Mhen-lan i foderneiddio ac adnewyddu eiddo presennol y cyngor, gan greu cymuned fwy diogel i bawb sy'n byw yno.

Bydd menter arloesol 10 mlynedd Rhagor o Gartrefi'r Cyngor hefyd yn cael hwb er mwyn helpu i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy i'w rhentu, gyda gwariant wedi'i neilltuo ar gyfer 19 o gynlluniau a phrosiectau gan gynnwys Tŷ Brondeg yn Nhrefansel, Creswell Road yn y Clâs, Brokesby Road, Bôn-y-maen a phrynu tir ar gyfer cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Neilltuwyd arian hefyd er mwyn parhau â chynllun llwyddiannus y Cyngor i brynu'n ôl eiddo'r cyngor a oedd wedi cael eu gwerthu dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu gynharach.

Mae'r gwariant yn rhan o'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor i'w rhentu'n fforddiadwy yn y ddinas, lle mae £500m wedi'i fuddsoddi yn y degawd diwethaf, gyda mwy na £200m yn fwy i'w wario yn y pedair blynedd nesaf. 

Cymeradwyodd Cyngor Abertawe'r rhaglen ar gyfer uwchraddio tai dros y 12 mis nesaf yn ei gyfarfod ar y gyllideb fis diwethaf. Daw cyllid o'r rhenti a delir gan denantiaid, grantiau Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill. Ni ddaw unrhyw ran o'r gwariant o dreth y cyngor.

Close Dewis iaith