Toglo gwelededd dewislen symudol

Gosod arwyddion i helpu i roi lle i forloi Abertawe

Mae ymgyrch bywyd gwyllt newydd i helpu i warchod morloi ar arfordir Abertawe a Gŵyr wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Abertawe.

seal signs

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r ymgyrch 'Rho le i'r morloi' a ddatblygwyd gan Grŵp Morloi Gŵyr, a'i nod yw rhoi cyngor i ymwelwyr â thraethau niferus Gŵyr ynghylch yr hyn y dylent ei wneud os ydynt yn dod ar draws morloi.

Mae mannau arfordirol creigiog fel Bae Limeslade a Bae Bracelet, yn ogystal â Phorth Einon a Bae Langland yn hysbys fel mannau gorffwys ar gyfer grwpiau o forloi, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae paneli gwybodaeth newydd lliwgar bellach wedi'u gosod ar y traethau hyn, sydd wedi'u hariannu'n rhannol gan y Cyngor, er mwyn darparu awgrymiadau a chyngor ar ymddygiad morloi a chamau syml y gall y cyhoedd eu cymryd i sicrhau bod morloi'n teimlo'n ddiogel a bod neb yn tarfu arnynt.

Gareth Richards, heddwas wedi ymddeol, yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Grŵp Morloi Gŵyr, ac mae hefyd yn is-gadeirydd ar gyfer sefydliad UK Seal Alliance. Fe sy'n gyfrifol am yr ymgyrch ddiweddar ac ers iddo ymddeol bu'n treulio'i amser yn ymgyrchu dros ddiogelwch morloi ac achub morloi wedi'u hanafu.

Mae morloi yn treulio o gwmpas 80% o'u hamser yn y môr ac maent yn dod i'r lan ar hyd Gŵyr i orffwys, cysgu a threulio eu bwyd. Mae'r amser byr y maent yn ei dreulio ar y tir yn hanfodol i'w hiechyd, ond mae hefyd yn eu gwneud yn agored i ryngweithiadau dynol.

Mae'r DU yn gartref i draean o holl boblogaeth y byd o forloi llwyd, sy'n golygu eu bod yn brin ar draws y byd.

Meddai Gareth, "Rwy'n falch iawn ein bod wedi ymuno â Chyngor Abertawe ar gyfer yr ymgyrch 'Rho le i'r morloi'.

"Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw addysgu a hysbysu pobl, fel y gallant fwynhau gwylio bywyd gwyllt ar hyd ein harfordir heb ymyrryd â'r anifeiliaid na tharfu arnynt.

"Gall camau syml fel cadw pellter da, cadw'n dawel a defnyddio ysbienddrych neu gamera eich ffôn symudol i'w harsylwi helpu i'w hatal rhag cael eu dychryn o'r man lle maent yn gorffwys.

"Mae morloi'n sensitif iawn i aflonyddwch gan fodau dynol. Rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw ar hyd ein harfordir ym mhenrhyn Gŵyr ac rydym am sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yma."

Cyfarfu Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd â Gareth yn ddiweddar i weld yr arwyddion yn cael eu gosod ac mae wedi galw ar y cyhoedd i gefnogi'r ymgyrch.

 Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Rydym yn llwyr gefnogi'r hyn y mae Grŵp Morloi Gŵyr yn ceisio'i gyflawni o ran gwarchod morloi. Rydym mor ffodus bod gennym forloi ar hyd ein traethau yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr.

"Mae ein traethau'n boblogaidd iawn a golygai hyn fod nifer uchel o bobl yn ymweld â nhw bob blwyddyn. Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sy'n ymweld ac sydd am gael cipolwg ar forloi'n talu sylw i'r arwyddion newydd ac yn helpu i sicrhau bod morloi'n parhau i ddefnyddio arfordir Abertawe fel cartref."

 

Close Dewis iaith