Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhieni'n gallu cael £100 mewn arian parod am ddefnyddio cewynnau golchadwy y gellir eu hailddefnyddio

Cynigir y cyfle i rieni newydd yn Abertawe gael £100 mewn arian parod gan Gyngor Abertawe am ddefnyddio cewynnau golchadwy y gellir eu hailddefnyddio.

real nappy week 2024

Mae'r cynnig arian parod yn rhan o ymdrechion y Cyngor i gefnogi 'Wythnos Cewynnau Ailddefnyddiadwy' a gynhelir rhwng 22 a 28 Ebrill.

Diben yr ymgyrch yw annog rhieni i newid o gewynnau tafladwy, gan helpu i arbed arian a'r amgylchedd.

Amcangyfrifir bod 3.6 biliwn o gewynnau'n cael eu taflu yn y DU bob blwyddyn, sy'n costio dros £140 miliwn y flwyddyn i Awdurdodau Lleol eu casglu a'u gwaredu.

Gall rhieni yn Abertawe gael gwybod mwy am y cewynnau golchadwy pan gynhelir stondinau dros dro mewn llyfrgelloedd lleol yn ystod yr wythnos arbennig.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau; "Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o rieni'n sy'n defnyddio cewynnau tafladwy gyda'u plant yn cael gwared arnynt yn eu gwastraff sach ddu - a thros gyfnod o bythefnos, gall hyn gynyddu faint o wastraff y mae rhieni'n ei roi allan.

"Mae e' hefyd yn eithaf drud i rieni ac amcangyfrifir bod rhieni'n gallu gwario hyd at £1,300 mewn cyfnod o ddwy flynedd pan fydd babanod ifanc mewn cewynnau.

"Dylai rhieni newydd sy'n dechrau ar eu taith gyda baban ifanc ystyried manteision defnyddio cewynnau golchadwy y gellir eu hailddefnyddio. Bydd hyn yn arbed llawer o arian iddynt y gallant ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill, a gallant hefyd gael £100 mewn arian parod drwy wneud cais drwy ein gwefan.

"Flynyddoedd lawer yn ôl, roedd y rhan fwyaf o rieni'n defnyddio cewynnau go iawn ac roedd llawer o waith ynghlwm wrth eu glanhau. Mae'r dyddiau hynny y tu ôl i ni ac mae defnyddio deunyddiau newydd a thechnoleg fodern yn golygu bod y genhedlaeth hon o gewynnau golchadwy'n hawdd eu defnyddio.

"Byddwn yn annog rhieni i roi cynnig arnynt a gweld a allant arbed rhywfaint o arian."

Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Cewynnau Ailddefnyddiadwy i'w chael yma https://reusablenappyweek.org.uk/#:~:text=22nd%20%E2%80%93%2028th%20April%202024

Gall rhieni Abertawe wneud cais yma Ewch i www.abertawe.gov.uk/cewynnau i gael rhagor o wybodaeth a £100 mewn arian parod