Y cyhoedd yn cael cyfle i fynegi barn am lwybr blaengar newydd i gerddwyr ar hyd yr afon Tawe
Gallai cerddwyr a beicwyr sy'n chwilio am wibdaith glan afon newydd yn Abertawe fod yn cerdded neu'n beicio ar hyd ffordd gyswllt newydd i gerddwyr ar hyd yr afon Tawe.
Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu cynigion ar gyfer llwybr cerdded a beicio Teithio Llesol newydd, a fyddai'n cysylltu canol y ddinas â Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Byddai'r dyluniad diweddaraf ar gyfer y llwybr yn cynnwys llwybr a rennir 3-4 metr o led ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ynghyd â llwybr estyllod uchel uwchben yr afon Tawe.
Mae ymgynghoriad ar y cynigion dylunio drafft bellach yn mynd rhagddo ac mae gan y cyhoedd y cyfle i fod yn rhan o'r cyfnod dylunio drwy ddarparu sylwadau am y cynlluniau.
Y llynedd, derbyniodd y Cyngor dros £1 miliwn drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru er mwyn gallu dylunio amrywiaeth eang o lwybrau cerdded a beicio. Mae peth o'r arian wedi cael ei ddefnyddio i ddylunio llwybr yr afon Tawe.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae coridor yr afon Tawe'n rhan hanfodol o gynlluniau adfywio ehangach Abertawe. Rydym eisoes wedi gweld y gwaith arbennig o ailddatblygu safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yn Ddistyllfa Penderyn, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer ailddatblygiad pellach yn y blynyddoedd sydd i ddod.
"Bydd y cynlluniau ar gyfer llwybr cerdded a beicio newydd yn golygu y bydd mynediad gwych i lan yr afon yn ogystal â chyswllt i gerddwyr rhwng canol y ddinas, safle'r Gwaith Copr a'r stadiwm.
"Rydym ar gam cynnar o ran y dyluniad ac rydym am i'r cyhoedd gymryd rhan yn y broses hon."
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyllid Teithio Llesol wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu mwy o adrannau o lwybrau cerdded a beicio ar hyd yr afon Tawe, rhwng stadiwm Swansea.com a chyffordd 45 yr M4.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Ein nod yw creu rhwydwaith eang o lwybrau cerdded a beicio sy'n cysylltu cymunedau ac yn darparu opsiynau eraill i breswylwyr deithio o amgylch Abertawe. Ar yr un pryd, rydym yn datblygu llwybrau sy'n manteisio ar ein hasedau naturiol fel yr afon Tawe."
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer cynigion cerdded a beicio Coridor Glannau'r Tawe ar agor tan 6 Mai. I gymryd rhan, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/TeithioLlesolAfonTawe