Cynlluniau ailgylchu tymor hir yn cael eu hystyried yn Abertawe
Mae Cyngor Abertawe'n ystyried ffyrdd y gall gyrraedd targedau ailgylchu yn y dyfodol y gellid eu gosod yn genedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei bod am i'r wlad gyrraedd cyfradd ailgylchu 100% erbyn 2050. Ar hyn o bryd, y targed ailgylchu diweddaraf y mae angen i gynghorau Cymru ei gyrraedd yw 70% erbyn 2025.
Mae strategaeth gwastraff newydd bellach yn cael ei datblygu yn Abertawe i ddisodli'r cynllun presennol sy'n rhedeg o 2022 i 2025.
Mae mentrau sy'n rhan o'r cynllun presennol wedi helpu Cyngor Abertawe i gyrraedd targedau ailgylchu parhaus ac mae nawr eisiau ffordd newydd ymlaen a fydd yn helpu preswylwyr i ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff cartref.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn ceisio treialu casgliadau ymyl y ffordd ar gyfer eitemau ychwanegol sydd fel arfer yn mynd yn y sachau du - fel ffilm blastig, cartonau diodydd a thecstilau.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae preswylwyr Abertawe wedi helpu i wneud y ddinas yn un o'r dinasoedd sy'n perfformio orau o ran ailgylchu yng Nghymru. Rydym yn cyrraedd targedau ailgylchu parhaus a osodwyd yn genedlaethol.
"Ein nod nawr yw ystyried y dyfodol a sut y gallwn ddarparu gwasanaethau sy'n annog preswylwyr i ailgylchu mwy o'u gwastraff cartrefi a chadw deunyddiau allan o'u gwastraff sachau du.
"Rydym bellach yn ailgylchu rhestr hir o eitemau ar ymyl y ffordd, a chyn bo hir gallai deunyddiau fel ffilm blastig a chartonau diodydd fod yn ymuno â'r rhestr honno."
Yn flaenorol, roedd y Cyngor wedi treialu'r defnydd o gynwysyddion ailddefnyddiadwy ar gyfer casgliadau gwydr, tun, papur a chardbord ymyl y ffordd. Cynhaliwyd y cyfnod prawf yn St Thomas/Port Tennant ac roedd yr adborth gan breswylwyr yn gadarnhaol.
Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Mae rhoi'r gorau i ddefnyddio sachau plastig gwyrdd untro ar gyfer casglu tuniau, gwydr a phapur yn flaenoriaeth i ni. Mae'r cyhoedd eisoes yn ymwybodol o'r pryderon amgylcheddol a ddaw yn sgil defnyddio plastig defnydd untro ac rydym wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd.
"Y gobaith yw y gallwn gyflwyno'r cynllun casglu yn ddiweddarach eleni a hefyd elwa o gostau parhaus prynu sachau gwyrdd untro."