Toglo gwelededd dewislen symudol

Diweddariad ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023 - 2038 (CDLl2)

Eich cyfle i helpu i benderfynu sut dylai Abertawe ddatblygu hyd at 2038

swansea from the air1

Rydym yn dechrau'r sgwrs ynghylch paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd Abertawe, sef y glasbrint newydd a fydd yn nodi sut a ble y dylai datblygiad ddechrau a siapio dyfodol y ddinas dros y degawd nesaf.

Bydd CDLl2 yn ceisio sicrhau bod y datblygiadau cywir yn digwydd yn y man cywir ar yr adeg gywir, gan fod o fudd i gymunedau a'r economi leol, fel bod ein hamgylchedd naturiol a'n treftadaeth adeiledig yn cael eu diogelu'n ddigonol.

Rydym wedi cyrraedd cam cynnar pwysig ac rydym am gael eich barn am y syniadau cychwynnol a fydd yn llywio ymagwedd strategol y cynllun. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar faterion allweddol, y weledigaethgyffredinol a'r prif amcaniona fydd yn darparu'r blociau adeiladu i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth. Erbyn hyn, rydym hefyd wedi nodi senarios gwahanol ynghylch graddfa'r twf a'r math o dwf y dylai Abertawe baratoi amdano. Hoffem i chi ystyried y canlynol:

A oes unrhyw faterion allweddol eraill y mae angen i ni eu hystyried?

A yw ein gweledigaeth ddrafft a'n hamcanion yn darparu'r fframwaith cywir er mwyn llywio'r cynllun?

Beth yw'ch barn ynghylch y lefelau twf arfaethedig?

Beth yw'ch barn ynghylch ein ffyrdd posib o ddarparu ar gyfer y twf yn y dyfodol?

Gallwch ddarganfod rhagor ac ymweld â'n hystafell arddangos rithwir yn (https://swansealdp2.consultation.ai/), lle gallwch weld y deunyddiau ymgynghori a mynegi'ch barn. Gallwch hefyd weld manylion yr ymgynghoriad ar y tudalennau cynllunio www.swansea.gov.uk/LDP2vision lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cam allweddol hwn yn y broses.

Os hoffech ddarganfod rhagor, ewch i un o'n sesiynau galw heibio yn Llyfrgell Ganolog Abertawe (yr Ystafell Ddarganfod) ddydd Mawrth 7 Mai a dydd Mawrth 21 Mai, lle bydd swyddogion ar gael rhwng 9.30am a 6.30pm i drafod CDLl2.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y tîm yn cdll@abertawe.gov.uk

 

am to discuss LDP2.

For further information please contact the team at ldp@swansea.gov.uk

 

Close Dewis iaith