Cenhedlaeth newydd o deledu cylch cyfyng yn anelu at gadw cymunedau'n ddiogel
Bydd cymunedau ar draws Abertawe'n derbyn systemau teledu cylch cyfyng wedi'u huwchraddio fel rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor ar gyfer gwella cyfleusterau o amgylch y ddinas.
Ymysg y cymunedau hyn mae canolfan ardal Uplands, maes parcio Bae Bracelet a Phontarddulais, y disgwylir i waith gael ei gwblhau yn ystod y misoedd nesaf. Bydd gwaith uwchraddio hefyd yn cael ei gyflwyno yng Ngorseinon, yng nghanol y ddinas, yn stadau tai'r Cyngor ac yn Nhreforys.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys uwchraddio ystafell reoli CCTV bresennol y cyngor.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r rhaglen er mwyn uwchraddio systemau CCTV a gosodiadau newydd eisoes yn mynd rhagddi. Mae isadeiledd pwysig yn cael ei osod yng nghanolfan ardal brysur Uplands y mis hwn, cyn gosod y genhedlaeth newydd o gamerâu CCTV cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
"Nod ein rhaglen CCTV yw cefnogi ein cymunedau yn y blynyddoedd i ddod, cefnogi'r heddlu a'r gwasanaethau brys eraill i helpu i gadw pobl yn ddiogel, atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau ofn troseddau."
Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Mae agoriad Arena Abertawe ynghyd â'r datblygiadau eraill sydd ar ddod yng nghanol y ddinas yn yr ychydig flynyddoedd nesaf y golygu bod angen i ni uwchraddio'n systemau CCTV yno."
Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, fod gosod systemau CCTV mewn stadau tai cyngor yn rhan o ymdrech y Cyngor i weithio gyda'r heddlu a chymunedau lleol i gefnogi preswylwyr a thenantiaid.
Meddai, "Mae'r Cyngor yn gwario miliynau o bunnoedd eleni i wella'n stoc tai a'r amgylchedd o gwmpas cartrefi ein tenantiaid. Bydd cenhedlaeth newydd o gamerâu CCTV manylder uwch yn helpu pobl i deimlo'n ddiogel ac yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol."