Cynlluniau parc sglefrio ar gyfer Abertawe yn symud ymlaen
Mae cynlluniau i wneud Abertawe yn un o ddinasoedd gorau'r DU ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog yn symud ymlaen.
Mae Cyngor Abertawe wedi addo buddsoddi £1 miliwn i ddatblygu cyfleusterau o'r radd flaenaf ledled y ddinas, gan ddarparu gwell cyfleoedd i sglefrfyrddwyr, sgwtwyr, beicwyr BMX a sglefrwyr.
Mae ymgynghorwyr parc sglefrio rhyngwladol Curve Studio wedi'u penodi i helpu i ddatblygu'r cynlluniau uchelgeisiol.
Dros y ddau ddegawd diwethaf mae Curve Studio wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Llundain, Dyfnaint, Eastbourne, Gogledd Iwerddon ac ar draws Norwy i greu parciau sglefrio a llwybrau BMX poblogaidd iawn. Yn ddiweddar, maent wedi cwblhau'r parc sglefrio mwyaf gogleddol yn y byd, yn yr Arctig Norwyaidd.
Mae'r tîm eisoes wedi cynnal arolwg o gyfleusterau sglefrio presennol yn Abertawe, gan ymweld ag 20 o safleoedd o amgylch y ddinas er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r ddarpariaeth bresennol.
Cymerodd mwy na 300 o bobl ran hefyd mewn ymgynghoriad ar-lein ar ddechrau'r flwyddyn, sydd wedi helpu'r Cyngor a'i bartneriaid yn Curve i gael rhagor o wybodaeth am farn y cyhoedd.
Bydd cam diweddaraf y prosiect yn cynnwys cwrdd â chynrychiolwyr o'r gymuned sglefrio i rannu'r canfyddiadau o arolygon blaenorol a rhannu syniadau a chynigion ar gyfer y cyfleusterau newydd.
Mae nifer o ganolfannau hamdden yn y ddinas bellach yn cynnal deuddydd o gyfleoedd trafod arbennig sy'n gwahodd y cyhoedd i fod yn bresennol a siarad mwy â'r Cyngor a dylunwyr am y cynlluniau.
Mae Kenneth Waggestad-Stoa o Curve Studio yn sglefrfyrddiwr brwd sydd wedi bod yn gyfrwng dylunio cyfleusterau sglefrio mewn mannau eraill yn y DU yn ogystal â thramor.
Meddai Kenneth, "Mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud mewn partneriaeth â'r Cyngor, sy'n ein caniatáu i gael gwell dealltwriaeth o ba ddarpariaeth sydd ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog yn Abertawe.
"Cawsom hefyd ymateb gwych i'r ymgynghoriad diweddar gyda channoedd o breswylwyr yn rhoi gwybod i ni am eu harferion hamdden mewn perthynas â chwaraeon olwynog.
"Rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt lle gallwn eistedd i lawr gyda rhanddeiliaid, grwpiau sglefrio cymunedol ac eraill i drafod ein canfyddiadau a thrafod cynigion.
"Nod allweddol y prosiect hwn yw datblygu uwchgynllun o gyfleusterau sglefrio ar draws Abertawe, gan sicrhau nad yw holl gymunedau'r ddinas yn rhy bell oddi wrth offer o ansawdd uchel, gan alluogi pawb i gael hwyl a meithrin eu sgiliau."
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am greu rhai o'r cyfleusterau sglefrfyrddio, BMX a chwaraeon olwynog gorau yng Nghymru.
"Mae gan Curve Studio hanes rhyfeddol am greu cyfleusterau sglefrio ym mhedwar ban byd a byddwn yn gweithio gyda'r Cyngor a'r cymunedau sglefrfyrddio a BMX i ddatblygu cyfres o opsiynau, strategaeth a chefnogaeth wrth ddylunio cyfleusterau y bydd pobl yn falch ohonynt.
"Fel ni, maent am weld y genhedlaeth nesaf o gyfleusterau sglefrio yn Abertawe yn helpu i fanteisio ar ymrwymiad a brwdfrydedd sglefrfyrddwyr a beicwyr BMX fel y bydd gan selogion chwaraeon olwynog yn Abertawe rywle i fynegi eu hunain, boed hynny er mwyn hwyl, lles neu am fod ganddynt uchelgais i gyrraedd y gemau Olympaidd."
Mae James Jones, beiciwr BMX Olympaidd a aned yn Abertawe, hefyd yn cefnogi'r cynlluniau ac yn meddwl y gallai nodau'r Cyngor arwain at ddoniau newydd ifanc yn dod i'r amlwg yn y ddinas.
Meddai'r dyn 29 oed sy'n dod yn wreiddiol o ardal Sandfields Abertawe, "Mae beicio BMX a sglefrfyrddio eisoes yn hynod boblogaidd, ond byddant yn dod yn fwy poblogaidd fyth yn Abertawe ac mewn mannau eraill yn y blynyddoedd i ddod gan fod y ddwy gamp bellach yn ymddangos yn y gemau Olympaidd.
"Mae'n wych bod Cyngor Abertawe wedi cydnabod hyn ac yn rhoi cryn dipyn o gyllid o'r neilltu i greu gwell cyfleusterau yma.
Cynhelir sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol:
Canolfan Hamdden Penyrheol ddydd Mawrth 14 Mai rhwng 11am a 3pm.
Yr LC nos Fawrth 14 Mai rhwng 6pm a 7.30pm.
Canolfan Hamdden Treforys Nos Fercher 15 Mai rhwng 5.30pm a 7.30pm.