Cyllid i helpu busnes yn Abertawe i wella'i broffil rhyngwlado
Mae prosiect sy'n ceisio gwella presenoldeb rhyngwladol cwmni yn Abertawe sy'n cynhyrchu hylifau cyfnewid gwres ynni effeithlon wedi cael hwb arianno
Mae Cyngor Abertawe wedi dyfarnu grant y Gronfa Datblygu Eiddo i Liquitherm Technologies Group, diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Bwriadwyd i'r Gronfa Datblygu Eiddo - sydd bellach wedi cau i geisiadau - helpu busnesau gyda'r gost o adeiladu neu ehangu adeiladau at ddefnydd diwylliannol yn Abertawe er mwyn creu cyflogaeth ychwanegol.
Bydd Liquitherm - arbenigwyr hylif ar gyfer systemau prosesu a hydronig - yn defnyddio'r cyllid i helpu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu'r hen safle BT Openreach yn Heol y Gors.
Bydd y datblygiad yn helpu Liquitherm i ehangu eu cyfleusterau ymchwil a datblygiad er mwyn helpu i greu mwy o swyddi ar y safle yn Heol y Gors.
Mae Canolfan Ragoriaeth Ymchwil a Datblygu (YaD) hefyd wedi'i chynllunio er mwyn datblygu cynnyrch a gwasanaethau trosglwyddo gwres uwch Liquitherm.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Liquitherm yn fusnes sefydledig yn Abertawe na fyddai'n gallu cyflawni'r cynllun ar gyfer twf a chyflogaeth bellach heb y cyllid hwn.
"Rydym yn falch iawn o helpu oherwydd bydd yr hyn y mae'r cwmni'n bwriadu ei wneud o fudd i bobl leol drwy greu mwy o swyddi, yn ogystal â helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad i Abertawe dros y blynyddoedd nesaf oherwydd yr arloesedd a'r proffil rhyngwladol y bydd eu datblygiad yn eu cyflawni."
Meddai Steve Hickson, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Liquitherm, "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael gafael ar y cyllid hwn, ar y cyd â chefnogaeth amhrisiadwy Cyngor Abertawe, a fydd yn darparu oddeutu 35% o'r £1.3 miliwn sydd ei angen i gwblhau cam un y prosiect Canolfan Ragoriaeth YaD.
"Bydd llwyddiant y prosiectau YaD newydd yn cynhyrchu mwy o brentisiaethau a chyfleoedd am swyddi tymor hir ar gyfer cymunedau lleol."
Yn ogystal â'r safle yn Heol y Gors, mae gan Liquitherm leoliad ar Europa Way ym Mharc Busnes Gorllewin Abertawe. Mae gan y cwmni gyfleusterau cynhyrchu hefyd yn UDA, Sbaen, Yr Iseldiroedd a Denmarc.