Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion blaengar yn rhoi bywyd newydd i finiau'n barod ar gyfer yr haf

Bydd yr haf yn edrych ychydig yn fwy lliwgar yn Langland a Bae Abertawe, diolch i bobl ifanc o Ysgol Gynradd Gellifedw.

Treuliodd disgyblion ysgol gynradd oriau yn troi cwpl o finiau sbwriel mawr glas yn atyniadau glan môr sydd hefyd yn gweithredu fel biniau sbwriel.

Canmolodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol ddychymyg ac ymrwymiad y plant i helpu i annog traethau heb sbwriel yr haf hwn.

Meddai, "Da iawn i bawb o Ysgol Gynradd Gellifedw am eu gwaith. Mae'r biniau'n edrych yn wych ac maent yn ychwanegiad na ellir ei golli at y traeth yn Langland ac ym Mae Abertawe ger The Secret.

"Rydym yn obeithiol iawn y bydd pobl yn defnyddio'n gall fel dewis arall yn lle taflu eu sbwriel ar y traeth cyn iddynt fynd adref."

Close Dewis iaith