Toglo gwelededd dewislen symudol

Traethau Abertawe'n paratoi ar gyfer yr haf gyda gwobrau'r Faner Las

Bydd ymwelwyr â rhai o draethau mwyaf poblogaidd Abertawe'n gwybod eu bod ymysg rhai o draethau gorau'r wlad yn dilyn cyhoeddi gwobrau diweddaraf y Faner Las.

langland bay

Yn barod ar gyfer yr haf, mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cadarnhau'r holl draethau a marinâu sydd â statws y Faner Las yng Nghymru ar gyfer 2024.

Mae cyfanswm o 25 o faneri glas wedi'u dyfarnu ledled Cymru ac mae tair o'r rheini wedi'u rhoi i dri o draethau sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Abertawe, gan gynnwys Bae Caswell, Bae Langland a Phorth Einon. Mae pedwaredd faner las unwaith eto wedi'i rhoi i brif farina'r ddinas hefyd.

Mae Gwobr y Faner Las yn eco-label sy'n enwog ar draws y byd y mae miliynau o bobl yn ymddiried ynddo gan ei fod yn golygu bod y dŵr ymdrochi o'r safon uchaf posib.

Ynghyd â gwobrau'r Faner Las, mae Bae Bracelet hefyd wedi derbyn un o 14 o Wobrau Arfordir Glas a gyhoeddwyd ledled Cymru, i gydnabod ei harddwch dilychwin a garw.

Mae'r wobr yn disodli gwobr y Faner Las ond gellir sicrhau ymwelwyr fod y traeth ac ansawdd y dŵr ym Mae Bracelet o safon y Faner Las o hyd.

Mae'r Wobr Arfordir Glas yn cydnabod trysorau cudd a chanddynt ansawdd dŵr rhagorol ac amgylchedd digyffwrdd ond nad oes ganddynt yr isadeiledd a'r rheolaeth ddwys sydd fel arfer yn gysylltiedig â chyrchfannau glan môr traddodiadol.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein traethau arobryn yn asedau gwirioneddol i'r ddinas ac yn atyniad enfawr i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

"Mae ennill a chadw statws y Faner Las yn cymryd llawer o amser a buddsoddiad fel y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau traethau glân, diogel a hardd drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu chwifio'r Baneri Glas unwaith eto yn rhai o'n traethau mwyaf poblogaidd ym mhenrhyn Gŵyr."

Meddai Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, "Rydym yn falch iawn o weld blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer y Gwobrau Arfordir Glas yma yng Nghymru, gyda 49 o leoliadau godidog yn cael eu cydnabod ymysg goreuon y byd.

"Mae ennill y gwobrau mawreddog hyn yn golygu bodloni'r safonau llym sydd ar waith i sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau'r traethau'n ddiogel, yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r llwyddiant hwn yn profi pa mor galed mae pawb sy'n ymwneud â chynnal a gwella harddwch naturiol arfordir Cymru wedi gweithio."

Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno tîm o weithwyr glanhau tymhorol newydd yn ogystal â gosod biniau barbeciws ar lawer o draethau poblogaidd, gan annog ymwelwyr i helpu'r Cyngor i gadw'r ardaloedd twristiaeth yn lân ac yn rhydd o sbwriel.