Toglo gwelededd dewislen symudol

Arian ychwanegol ar y ffordd i wella ffyrdd yn Abertawe

Disgwylir i ffyrdd yn Abertawe yr effeithiwyd arnynt gan dywydd oer a gwlyb yn ystod misoedd diweddar y gaeaf gael eu gwella.

patch repair

Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £600,000 i fynd i'r afael ag atgyweiriadau ar fwy fyth o ffyrdd ar draws y ddinas.

Caiff yr arian ychwanegol ei rannu'n gyfartal rhwng Cynllun Ailwynebu Bach presennol y Cyngor (a adwaenid yn flaenorol fel PATCH) a'i brif raglen ailwynebu ffyrdd cerbydau.

Ym mis Mawrth eleni, roedd cyllideb flynyddol gymeradwy'r Cyngor yn cynnwys buddsoddiad o £6.5 miliwn i gyd ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol bellach yn golygu y bydd mwy na £7 miliwn yn cael ei wario'n atgyweirio rhai o'r 1,100km o ffyrdd yn y ddinas, a bydd yn helpu i gynnal ymdrechion y Cyngor i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o atgyweiriadau i ffyrdd.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ym mis Mawrth, cymeradwyom swm sylweddol o'n cyllideb flynyddol tuag at atgyweiriadau priffyrdd ar gyfer 2024/25.

"Mae ffyrdd a glustnodwyd i'w hatgyweirio yn ystod y deuddeng mis nesaf wedi cael eu blaenoriaethu fel rhan o'n rhaglen dreigl asedau priffyrdd bum mlynedd.

"Bydd yr arian ychwanegol rydym bellach wedi'i gymeradwyo yn mynd â'r buddsoddiad ar gyfer eleni i fwy na £7 miliwn a bydd yn sicrhau y gallwn hefyd ddelio â ffyrdd sydd wedi dioddef effaith gaeaf oer a gwlyb yn ddiweddar."

Yn ystod y flwyddyn flaenorol, ail-wynebwyd dros naw cilomedr o ffordd yn llawn, gan gynnwys Pentrepoeth Road, Treforys a Gorwydd Road, Tregŵyr.

Llenwyd mwy na 7,500 o dyllau yn y ffordd hefyd yn 2023 ac atgyweiriwyd bron pob un ohonynt o fewn yr addewid 48 awr a wnaed gan y Cyngor.

Mae defnydd da eisoes wedi'i wneud o rywfaint o'r gyllideb gyffredinol ar gyfer 2024/25 gyda nifer o lwybrau allweddol yn y ddinas yn elwa o waith ailwynebu llawn. Mae'r ffyrdd yn cynnwys Cockett Road, Llwynmawr Road - Tŷ Coch a rhan o'r A483 Penllergaer.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae ein timau cynnal a chadw priffyrdd yn parhau i fynd i'r afael â'r rhannau gwaethaf o'r ffyrdd yn y ddinas, gan weithio drwy'r nos yn y rhan fwyaf o achosion i leihau'r tarfu ar fodurwyr.

"Y realiti o ran cynnal a chadw ffyrdd, nid yn unig yn Abertawe, ond o gwmpas y wlad, yw nad oes byth digon o arian i fynd i'r afael â phopeth sydd angen sylw. Dyna pam rydym yn blaenoriaethu ein gwaith cynnal a chadw i fynd i'r afael â ffyrdd yr aseswyd eu bod yn y cyflwr gwaethaf.

Gall modurwyr a phreswylwyr yn Abertawe wneud eu rhan hefyd drwy adrodd am ddiffygion ffyrdd fel y gallwn ystyried atgyweiriadau priodol. Mae ein haddewid i lenwi tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr uwchben 95% yn aml, ac mae timau wedi gwneud gwaith gwych, gan ymateb i geisiadau gan breswylwyr."

Close Dewis iaith