Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth y cyngor yn ysgogi gwelliannau i wasanaethau bysus lleol

Bydd plant ysgol yng ngogledd Abertawe yn gallu mynd i'r ysgol ac oddi yno'n haws yn dilyn adfer gwasanaeth bysus lleol.

free bus survey

Mae Cyngor Abertawe wedi darparu cyllid i First Cymru gynnal y gwasanaeth X13a newydd rhwng Abertawe a Phontarddulais.

Mae lansio'r gwasanaeth contract newydd yn golygu y gall disgyblion sy'n teithio rhwng Pontlliw ac Ysgol Gyfun Pontarddulais fynd ar fws yn awr i fynd yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Mae'r Cyngor hefyd wedi helpu i ariannu gwasanaeth bysus ben bore (Rhif 16) rhwng Tregŵyr a chanol y ddinas ac mae'n dilyn materion a godwyd gyda Thîm Cludiant Teithwyr y Cyngor ynghylch gweithwyr yn methu cyrraedd eu man gwaith mewn pryd.

Mae trafodaethau rhwng First Cymru a'r Cyngor hefyd wedi arwain at welliant mewn amlder gwasanaethau lleol eraill fel Rhif 12 ac 13 rhwng canol y ddinas a Townhill.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae newidiadau blaenorol i wasanaethau bysus masnachol yn y ddinas wedi creu rhai problemau i ddefnyddwyr cludiant cyhoeddus, gan ei gwneud yn anodd iddynt  deithio i'r gwaith neu'r ysgol leol ac oddi yno.

"Mae hyn wedi ysgogi preswylwyr i rannu eu pryderon â'r Cyngor i weld a allwn gefnogi First Cymru i ddarparu gwasanaethau bysus ychwanegol.

"Fel Cyngor, rydym am i'r cyhoedd wneud yn fawr o wasanaethau cludiant cyhoeddus ac rydym yn gwneud yr hyn y gallwn i gefnogi gweithredwyr cludiant i sicrhau bod y gwasanaethau bysus lleol yn addas i'r diben ac yn darparu'r cludiant angenrheidiol i breswylwyr.

"Rwy'n falch bod ein trafodaethau diweddar â First Cymru, ynghyd â rhywfaint o gyllid ychwanegol wedi arwain at wella gwasanaethau bysus lleol i breswylwyr."

Croesawyd y gwelliannau i'r gwasanaeth gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart. Meddai, "Rwyf am ddiolch i'r tîm yng Nghyngor Abertawe am y gwaith y maent wedi'i wneud dros fisoedd lawer i drafod gwelliannau i wasanaethau bysus i lawer o'n cymudwyr yn Abertawe. Rwy'n falch bod Cyngor Abertawe hefyd wedi gallu darparu cyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau bysus ychwanegol."

Yn gynharach yn y flwyddyn, cymeradwyodd y Cyngor ei gyllideb flynyddol sy'n cynnwys mwy nag £1 filiwn tuag at wasanaethau bysus fel rhan o'i raglen llwybrau bysus cymorthdaledig.

Mae'r holl wasanaethau bysus a ariennir gan y Cyngor yn rhai y mae gweithredwyr cludiant wedi dod i'r casgliad nad ydynt yn fasnachol ddichonadwy. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau bysus yn hwyrach min nos, gwasanaethau rhwng Abertawe a Gŵyr yn ogystal â chludiant yn ôl ac ymlaen i ysbytai.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Rydym wedi gwneud ymrwymiad i ariannu mwy na 30 o wasanaethau bysus lleol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Er nad yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu hystyried yn fasnachol ddichonadwy i weithredwyr lleol, maent yn dal i ddarparu cludiant mawr ei angen i lawer o breswylwyr."