Toglo gwelededd dewislen symudol

CERDDORIAETH JAZZ SYR KARL JENKINS YN CAEL EI PHERFFORMIO YNG NGŴYL JAZZ RYNGWLADOL ABERTAWE

Bydd cerddoriaeth jazz gynnar y cyfansoddwr enwog, Syr Karl Jenkins yn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni.

Karl Jenkins

Karl Jenkins

Fel rhan o'i ddathliadau pen-blwydd yn 80 oed, mae Syr Karl, sydd hefyd yn noddwr yr ŵyl, wedi trefnu'r perfformiad gyda'r chwaraewr bas a'r cyfansoddwr, Laurence Cottle, y bydd ei Fand Mawr Llawn Sêr yn perfformio. Bydd Syr Karl, a fydd yn dychwelyd i'r genre am y tro cyntaf ers 50 mlynedd, hefyd yn cyflwyno'r gyngerdd.

Bydd y gyngerdd, sy'n dwyn yr enw Back, Down Another Road: The Jazz Music of Sir Karl Jenkins, yn cynnwys caneuon gan Syr Karl megis "Down Another Road", "Elastic Rock" (y trac teitl o albwm cyntaf Nucleus), "Lullaby for a Lonely Child" a mwy.

Cafodd Syr Karl ei fagu ger Abertawe ym Mhen-clawdd cyfagos, a dechreuodd ei yrfa gerddorol yn y byd jazz yn Llundain 50 mlynedd yn ôl ar  ôl iddo gwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle perfformiodd yn Ronnie Scott's cyn ennill y wobr gyntaf yng Ngŵyl Jazz Montreux gyda'i fand, Nucleus.

Mae bellach yn adnabyddedig am ei gyfansoddiadau clasurol ac mae'n un o'r cyfansoddwyr byw y mae ei weithiau'n cael eu perfformio fwyaf yn y byd, gyda'i gyfansoddiad arloesol, The Armed Man: A Mass for Peace yn cyrraedd rhif 4 yn y '2024 Classic FM Hall of Fame', y cyflawniad gorau gan gyfansoddwr byw.

Meddai Syr Karl Jenkins, "Yn fuan ar ôl i fi adael Prifysgol Caerdydd ym 1966 er mwyn mynd i'r Academi Gerdd Frenhinol, dechreuais ymgysylltu â'r byd jazz yn Llundain gan ymuno â seithawd Graham Collier ac yn nes ymlaen, roeddwn i'n un o gyd-sylfaenwyr y band Nucleus (a enillodd y wobr gyntaf yng Ngŵyl Jazz Montreux yn y 1970au), cyn ymuno â'r band arloesol, Soft Machine.

"Bues i'n cyfansoddi llawer o'r gerddoriaeth ar gyfer y grwpiau hyn, ac un o fy alawon cyntaf oedd 'Down Another Road' - dyna pam y dewiswyd yr enw 'Back, Down Another Road' ar gyfer y digwyddiad, gan fy mod i'n dychwelyd i genre dydw i heb ymgysylltu ag ef ers 50 mlynedd, ond rwy'n hoff iawn ohono o hyd."

Mae Cyngor Abertawe'n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, sydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth gan Bedwarawd Adrian Cox, Denny Illet's Electric Lady Big Band, Moscow Drug Club, a phrosiect The Stacey Brothers' Big Band Steely Dan, yn ogystal â Nigel Hitchcock a Mark Nightingale yn ystod digwyddiad gala agoriadol arbennig i ddathlu pen-blwydd Syr Karl, a 75 mlynedd o gerddoriaeth jazz fyw yn Abertawe.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Syr Karl Jenkins yw un o hoff gyfansoddwyr y byd, sy'n enwog am ei waith clasurol fel The Armed Man, a gyrhaeddodd rif pedwar yn y Classic FM Hall of Fame eleni.

"Fodd bynnag, dechreuodd yrfa Syr Karl Jenkins ym maes jazz ac mae'n wych gweld Karl yn dod adref i Abertawe, gan nodi ei ben-blwydd yn 80 oed drwy ddychwelyd i'w gerddoriaeth gynnar. Mae wedi ymuno â dyn lleol arall a cherddor anhygoel, Laurence Cottle, i greu addasiadau newydd o'i gyfansoddiadau jazz.

"Rydym yn falch iawn o gyfraniadau Syr Karl at gerddoriaeth ac mae'n fraint i ni gynnal gala arbennig i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, a 75 mlynedd o gerddoriaeth jazz fyw yn Abertawe. Mae'r gala a'r gyngerdd yn ddigwyddiadau na ddylid eu colli ac mae'r rheini sy'n dod iddynt yn sicr o gael amser gwych."

Back, Down the Road: Mae cerddoriaeth Syr Karl Jenkins yn dod i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe ar 14 Mehefin 2024 ym Mharc yr Amgueddfa am 8.30pm. Mae tocynnau ar gael nawr yn joiobaeabertawe.com