Wythnos Twristiaeth Cymru 2024
Rhwng 15 a 19 Gorffennaf, byddwn yn dathlu'r diwydiant twristiaeth lleol ym Mae Abertawe.
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2024 yn gyfle i ddathlu ein diwydiant twristiaeth lleol a phopeth sydd gan Fae Abertawe i'w gynnig fel cyrchfan i ymwelwyr.
Rydym wedi bod yn brysur! A ydych wedi clywed yr holl newyddion a chyhoeddiadau cyffrous?
- 15 Gorff 2024: Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dychwelyd yn 2024
- 16 Gorff 2024: Lansio ymgyrch 'Yn Fyw o Fae Abertawe' gyda fideo newydd a hysbysebion ar draws y ddinas
- 17 Gorff 2024: Gwefan croesobaeabertawe.com newydd sbon i hyrwyddo'r cyrchfan
- 18 Gorff 2024: Hwb ariannol i fusnesau twristiaeth Abertawe
- 19 Gorff 2024: Cyfleusterau toiled newydd i'r rhai hynny sy'n ymweld ag un o'r traethau gorau yn y byd
Cofiwch: croesobaeabertawe.com yw'r wefan swyddogol ar gyfer cyrchfannau ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr a gall eich busnes twristiaeth neu letygarwch gofrestru am ddim.
Addaswyd diwethaf ar 19 Gorffenaf 2024