Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb mawr i gysylltiadau trafnidiaeth yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid grant gwerth mwy na £7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei ddefnyddio i gwblhau cyfres o gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy ar draws y ddinas.

Transport

Bydd adroddiad i'r Cabinet ar 18 Gorffennaf yn ceisio cymeradwyo nifer o gynlluniau sydd â'r nod o wella cysylltiadau trafnidiaeth a rhoi hwb i deithio cynaliadwy, gan gynnwys y canlynol:

  • Prosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru - bydd prosiect trafnidiaeth ranbarthol sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn derbyn £2 filiwn i'w helpu i barhau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer rheilffyrdd, bysus a theithio llesol.
  • Gosod arwyddion gwybodaeth amser go iawn i deithwyr ar hyd llwybrau bysus allweddol.
  • Bydd £420,000 yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu canolfannau trafnidiaeth i deithwyr yn y Mwmbwls ac yn Nhreforys fel rhan o gynllun peilot bysus Cwm Tawe.
  • Bydd £505,000 yn mynd tuag at osod rhagor o bwyntiau gwefru cerbydau trydan.
  • Bydd wyth man gwefru 'cyflym' yn cael eu gosod cyn hir ar bedwar safle yn Abertawe a byddant yn ychwanegu at isadeiledd gwefru cyffredinol y ddinas sydd eisoes â 133 o fannau gwefru ar draws 44 o safleoedd yn Abertawe.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu gwell cysylltiadau trafnidiaeth a dulliau mwy cynaliadwy o deithio er mwyn helpu i leihau tagfeydd a llygredd.

"Bydd y cyllid diweddaraf rydym wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i gyflwyno hyd yn oed mwy o isadeiledd gwefru cerbydau trydan.

"Mae gan y ddinas rwydwaith eang o fannau gwefru cerbydau trydan eisoes. Rwy'n falch y gallwn ehangu ar y ddarpariaeth hon ymhellach ar draws safleoedd eraill yn y ddinas, a rhoi'r hyder y mae ei angen ar fodurwyr sy'n defnyddio cerbydau trydan i wefru eu cerbydau."

Mae mwy na £2 filiwn hefyd wedi'i dderbyn fel rhan o Gronfa Teithio Llesol LlC a bydd yn helpu i ddatblygu'r rhwydwaith cynyddol o lwybrau cerdded a beicio yn y ddinas, gan gynnwys:

  • Rhan o'r Gronfa Teithio Llesol (£1.4 miliwn) a fydd yn helpu i ddatblygu 850 metr o lwybrau cerdded a beicio wedi'u gwella ar hyd Walter Road a Sketty Road. Bydd y cam cyntaf yn ymestyn o'r cyffyrdd â Page Street a Brynymor Road.
  • Bydd y grant yn helpu gyda cham dylunio'r pum llwybr newydd, gan gynnwys Coed Penlle'r-gaer i bentref Tircoed, Pen-clawdd i Dregwŷr a Newton i'r Mwmbwls.
  • Bydd plant ysgol hefyd yn elwa o hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd gyda mwy na £90,000 wedi'i fuddsoddi yng nghynllun hyfforddi poblogaidd Kerbcraft a hyfforddiant diogelwch beiciau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r ffordd mae pobl yn teithio yn newid ac mae pobl yn mynnu mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio'n ddiogel ledled Abertawe.

"Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddatblygu llwybrau trafnidiaeth gynaliadwy sy'n cysylltu â gwasanaethau cludiant cyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded er mwyn rhoi opsiynau i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o amgylch Abertawe.

"Drwy greu llwybrau beicio a cherdded newydd byddwn yn darparu llwybrau sy'n addas i'r cyhoedd ar draws cymunedau a fydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd traffig a llygredd yn Abertawe."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Gorffenaf 2024