Toglo gwelededd dewislen symudol

Teithio o amgylch Abertawe am ddim yr haf hwn

TranslMae menter bysus am ddim Cyngor Abertawe'n dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf, gan gynnig cyfleoedd i deithio am ddim o fewn y ddinas.ation

free bus survey

Mae cynnig bysus am ddim Abertawe'n golygu bod preswylwyr yn gallu teithio ar gludiant cyhoeddus yn y ddinas am gyfanswm o 20 niwrnod rhwng 26 Gorffennaf a 26 Awst ac mae'n gweithredu bob penwythnos (dydd Gwener i ddydd Llun).

Mae'r fenter teithio am ddim a arweinir gan y Cyngor bellach yn ei phedwaredd flwyddyn o weithredu ers iddi gael ei lansio yn ystod gwyliau haf 2021 ac mae degau ar filoedd o bobl wedi manteisio ar y cyfle i deithio am ddim er mwyn mynd i siopa, mynd i weld ffrindiau am goffi, ymweld â thirnodau lleol neu ymweld â'r traethau bendigedig ar hyd yr arfordir.

Mae Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, wedi cadarnhau buddsoddiad ychwanegol gwerth £200,000 tuag at y cynllun bysus am ddim, a fydd yn sicrhau bod y cynnig poblogaidd yn parhau drwy gydol yr haf yn ogystal â thros gyfnod y Nadolig.

Meddai Rob Stewart, "Mae'r cynnig bysus am ddim yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Hon oedd y fenter gyntaf o'i bath yng Nghymru i gynnig teithiau ar fysus am ddim i bawb ac mae pobl wedi mynd ar bron hanner miliwn o deithiau yn ei ddau haf cyntaf.

"Ar adeg pan mae pob un ohonom yn gorfod ymdrin â'r argyfwng costau byw a rhenti a morgeisi sy'n codi, bydd dychweliad cynnig bysus am ddim Abertawe yn cael ei groesawu gan lawer o deuluoedd.

"O'r adborth rydym wedi'i gael yn y gorffennol, mae'n amlwg ei fod wedi helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd wrth fynd i leoedd y byddent wedi cael trafferth fforddio ymweld â nhw fel arall.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu cyllid pellach ar gyfer y gwasanaeth bysus am ddim fel bod pawb yn gallu elwa ohono."

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae gwyliau haf yr ysgol yn gallu bod yn gyfnod drud i deuluoedd sy'n awyddus i gadw eu plant yn brysur. Mae ein menter bysus am ddim yn rhoi'r cyfle i bawb deithio o amgylch ein dinas wych ac yn sicrhau y gallant arbed eu harian ar gyfer yr amrywiaeth eang o atyniadau sydd ar gael."

"Yn ogystal â bod yn gyfle i nifer o bobl arbed arian, mae'r fenter hefyd yn ymgais gan y Cyngor i annog rhagor o bobl yn y ddinas i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy yn hytrach na defnyddio car.

"Mae cost gynyddol tanwydd yn rhywbeth sy'n ei wneud yn anodd i berchnogion ceir felly rydw i'n hyderus y byddwn yn gweld hyd yn oed mwy o bobl yn dewis teithio ar fws yn lle car yr haf hwn."

Mae'r fenter bysus am ddim yn berthnasol i bob taith ar fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe, tan 7pm ar ddiwrnodau pan fydd y cynnig ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig i deithio ar fysus am ddim, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/bysusamddim 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024