Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerbydlu newydd o gerbydau casglu yn dod i Abertawe

Mae cerbydlu newydd o gerbydau'n cael eu cyflwyno yn Abertawe er mwyn helpu i fynd i'r afael â chasgliadau gwastraff cartrefi.

new waste vehicles

Mae Cyngor Abertawe yn buddsoddi mwy nag £8 miliwn er mwyn adnewyddu ei gerbydlu o gerbydau ailgylchu a gwastraff cartrefi, gyda chynlluniau i gyflwyno 37 o lorïau newydd sbon rhwng nawr a mis Chwefror 2025.

Mae'r cerbydlu presennol wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd, gan deithio miloedd o filltiroedd bob wythnos ac mae'r cerbydau yn cyrraedd diwedd eu hoes.

Mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn 17 o gerbydau newydd fel rhan o'r broses dendro gychwynnol.

Bydd 20 o gerbydau ychwanegol, gan gynnwys dau gerbyd trydan, yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cyngor Abertawe, "Wrth gymeradwyo ein cyllideb flynyddol yn gynharach eleni, gwnaethom gytuno i fuddsoddi mwy nag £8 miliwn tuag at gael cerbydlu newydd ac rwy'n falch bod hyn bellach ar waith.

"Mae'r cerbydau casglu hyn yn teithio pellterau eang yn ystod oes ein cerbydau. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r cerbydau'n cael eu cynnal er mwyn iddynt allu gweithredu'n effeithiol.

"Weithiau rydym yn profi rhai materion mecanyddol a all ddigwydd ar fyr rybudd a gall hyn effeithio ar gasgliadau.

"Rwy'n falch bod gennym gerbydau newydd yn gweithredu ar draws Abertawe, gyda mwy i ddod drwy gydol y flwyddyn."

Mae'r Cyngor hefyd wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu recriwtio 20 aelod o staff casglu gwastraff ac ailgylchu newydd. Bydd y staff newydd yn golygu nad oes yn rhaid i'r Cyngor ddibynnu ar staff asiantaeth allanol, sy'n cyflenwi ar gyfer staff y Cyngor sydd ar wyliau blynyddol neu gyfnodau o salwch.

 Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Er mwyn sicrhau bod casgliadau gwastraff yn cael eu casglu pryd y dylent, yn aml mae'n rhaid i ni ddibynnu ar staff asiantaeth allanol i gyflenwi ar gyfer staff y Cyngor os ydynt ar wyliau neu'n sâl. Weithiau gall prinder staff arwain at darfu o ran casgliadau gwastraff ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd yn ddiweddar.

"Drwy recriwtio 20 aelod o staff newydd i'n tîm casgliadau, dylai rhoi mwy o hyblygrwydd i ni o ran ein gallu i ddod o hyd i staff ar fyr rybudd ac atal unrhyw darfu o ran y casgliadau gwastraff cartrefi."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Gorffenaf 2024