Bydd angen i breswylwyr ddefnyddio canolfannau ailgylchu i ailgylchu gwastraff gardd y gaeaf hwn
Os ydych am ailgylchu gwastraff gardd y gaeaf hwn, bydd yr holl ganolfannau ailgylchu a gynhelir gan y Cyngor ar agor fel y gallwch gael gwared ar dorion gwair a pherthi, yn ogystal â brigau bach.
Y gaeaf hwn bydd y Cyngor unwaith eto'n atal casgliadau gwastraff gardd ymyl y ffordd rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror. Bydd casgliadau gwastraff gardd ymyl y ffordd yn ailddechrau ar ddechrau mis Mawrth.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: "Gwnaethom dreialu'r cynllun atal casgliadau gwastraff gardd y llynedd er mwyn ystyried yr effaith y gallai hyn ei chael ar breswylwyr. Nifer bach iawn o breswylwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn ystod y gaeaf - tua 5% o aelwydydd Abertawe.
"Mae bob amser cynnydd mawr yn swm yr ailgylchu cartref sy'n cael ei gyflwyno i'w gasglu yn ystod cyfnod y Nadolig a hefyd drwy gydol mis Ionawr.
"Mae hyn yn rhoi llawer o bwysau ar ein criwiau casglu a'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym. Mae'n gwneud synnwyr i beidio â chasglu gwastraff gardd yn ystod y cyfnod hwn a defnyddio'r timau hyn i helpu i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar gasgliadau ailgylchu a gwastraff eraill.
"Bydd ein canolfannau ailgylchu ar agor fel arfer drwy gydol y gaeaf ac os oes angen i breswylwyr gael gwared ar wastraff gardd yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn hapus i'w helpu i gael gwared ar unrhyw wastraff cartref sydd ganddynt."
Am ragor o wybodaeth am ein canolfannau ailgylchu, ewch i www.abertawe.gov.uk/canolfannauailgylchu