Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleoedd dydd i bobl sy'n derbyn cefnogaeth ar gyfer eu lles emosiynol a'u hiechyd meddwl

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan bobl am ddyfodol cyfleoedd dydd i bobl sy'n derbyn cefnogaeth ar gyfer eu lles emosiynol a'u hiechyd meddwl.

Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am ddarparu'r holl gyfleoedd amrywiol yn y maes ond mae'n darparu'r canlynol, ac yn helpu i dalu amdanynt:

  • Y Gwasanaeth Galw Heibio ar gyfer Lles yn yr tîm Cymuned, Adfer, Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant (CREST)
  • Y Coleg Adfer yn CREST
  • Y Tîm Cyflogaeth yn CREST
  • Y Gwasanaeth Cysylltu a ddarperir gan Goleudy
  • Y Gwasanaeth Seibiant a ddarperir gan Adferiad.

Gall y Cyngor ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i sicrhau bod y gwasanaethau hyn y gorau y gallant fod. Os ydych yn dweud wrthym am fylchau na allwn eu llenwi a newidiadau na allwn eu hachosi yn ein gwasanaethau dydd, gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth o hyd i ofyn i sefydliadau eraill (elusennau, grwpiau cymunedol etc.) a allant helpu. 
Mae'r Cyngor am sicrhau bod gan unrhyw un sydd â barn, neu unrhyw un y gallai unrhyw newidiadau effeithio arnynt, gyfle i ddweud eu dweud. Mae hwn yn ymarfer gwrando ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ar hyn o bryd. 

Credwn yn llwyr fod angen barn pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau os ydym am wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y dyfodol. 

Sut gallaf gymryd rhan?

Mae arolwg wedi'i ddatblygu i gasglu adborth. Mae tair fersiwn sydd ychydig yn wahanol, yn dibynnu ar p'un a ydych yn: 

  1. Rhywun sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn (snapsurveys.com),
  2. Ffrind neu aelod o deulu rhywun sy'n eu defnyddio (snapsurveys.com), neu
  3. Weithiwr proffesiynol neu aelod o'r cyhoedd â diddordeb cyffredinol ynddynt (snapsurveys.com).

Fel arall gallwch gwblhau copi papur a'i ddychwelyd i'r cyfeiriad post a danlinellir isod:

Christopher Francis, 
Gwasanaethau i Oedolion Cyngor Abertawe, 
Neuadd y Ddinas,
Abertawe
SA1 4PE

Er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o amser i ystyried a thrafod eich syniadau, y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r arolwg yw dydd Gwener 5 Rhagfyr 2024.

Beth fydd yn digwydd gyda'r adborth?

Ein nod yw defnyddio'r gwersi o'r adborth i helpu i lunio gwasanaethau dydd ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ymarfer hwn yn cymryd rhai misoedd i'w gwblhau ond byddwn yn rhoi gwybod i bobl am y cynnydd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024