Cefnogaeth Cyngor Abertawe ar gyfer y diwydiant twristiaeth yn parhau
Nod y Gronfa Cymorth i Dwristiaeth boblogaidd a reolir gan dîm twristiaeth y Cyngor ac sydd bellach yn ei thrydedd rownd yw cefnogi gweithredwyr llety ymwelwyr bach sydd am wella'u cynnig neu gynyddu eu gradd.

Mae busnesau llety ymwelwyr bach yn ffynnu yn Abertawe, o ganlyniad i don newydd o gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan gadarnhau enw Abertawe ymhellach fel cyrchfan i dwristiaid sydd ymysg y goreuon.
Mae cyfanswm o 12 o fusnesau wedi llwyddo i sicrhau cyllid i wella'u cyfleusterau gyda grantiau o hyd at £10,000. Mae rhai o'r prosiectau a gyflwynwyd yn y rownd hon yn cynnwys adnewyddu ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi, gwell hygyrchedd, mannau storio cyfarpar beicio a chwaraeon dŵr, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a phaneli solar.
Mewn ymateb i adborth gan y diwydiant, aeth Cyngor Abertawe ati'n rhagweithiol i sefydlu'r gronfa hon i ddarparu grantiau a chefnogaeth farchnata, gan rymuso gweithredwyr lleol i wella'u cynigion.
Roedd Samantha Birdsell, sy'n rhedeg Fferm Pitton Cross yn Rhosili, wedi defnyddio'r arian grant ar gyfer prosiect mawr i addasu sawl tŷ allan yn ysguboriau gwyliau o safon sy'n croesawu cŵn.
Meddai, "Bydd gallu cynnig unedau llai yn denu marchnadoedd newydd i'r fferm gan wneud y busnes yn fwy dichonadwy drwy'r flwyddyn gron."
Meddai Geraint Higgins, perchennog Cwrt-y-Wennol yng Nghlydach, sydd hefyd wedi sicrhau arian grant, "Mae ein lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio a phadlfyrddio. Roedd y grant hwn wedi caniatáu i ni greu lle diogel lle gall gwesteion sychu a storio eu cyfarpar beicio neu chwaraeon dŵr. Bydd y cyfleuster newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiadau cyffredinol ymwelwyr."
Yn ogystal â'r cymorth grant, mae'r Cyngor yn parhau i gynnig marchnata am ddim i fusnesau twristiaeth a lletygarwch lleol. Mae dros 250 o bartneriaid eisoes wedi manteisio ar yr ymgyrchoedd marchnata a gynhelir drwy gydol y flwyddyn i ddenu ymwelwyr i'r ardal.
Ym mis Chwefror, bydd tîm twristiaeth y Cyngor yn cynnal digwyddiad busnes i arddangos sut y gall gwefan croesobaeabertawe.com ar ei newydd wedd helpu busnesau i wella'u cynigion ymhellach a denu cynulleidfa ehangach.
Hefyd yr wythnos hon lansiwyd Cystadleuaeth Fawr Abertawe, gyda gwobr wych yn cael ei chyhoeddi bob dydd yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Mae busnesau a lleoliadau lleol wedi dangos cryn gefnogaeth ac wedi cynnig gwobrau gwych, gan gynnwys tocynnau teulu i noson agoriadol y pantomeim yn Theatr y Grand Abertawe, Profiad Cwrdd â'r Anifeiliaid Plantasia a basged Blas ar Abertawe o Farchnad Abertawe, arosiadau dros nos mewn gwestai lleol a mwy.
Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Joio Bae Abertawe drwy gydol mis Rhagfyr i gael rhagor o wybodaeth.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae'r Nadolig yn amser ar gyfer y gymuned, haelioni a llawenydd ac mae'r gystadleuaeth anhygoel hon yn arddangos calon ac enaid Abertawe. Mae ein busnesau lleol wedi dod ynghyd yng ngwir ysbryd y tymor i roi gwên ar wynebau teuluoedd ar draws ein dinas."
"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cynnig gwobrau ar gyfer ein Cystadleuaeth Nadolig ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn 2025."