Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Nod y Cyfamod y Lluoedd Arfog yw annog cymunedau lleol i gefnogi'r gymuned wasanaethu yn eu hardal a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.
Addewid gan y genedl
Mae'r Cyfamod yn addewid gan y genedl sy'n sicrhau bod y rheini sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg a'u bod ddim dan anfantais yn eu bywydau bob dydd.
Rydym yn falch o gefnogi'r rheini sy'n gwasanaethu
Ar gyfer Cyngor Abertawe a sefydliadau partner, mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cyflwyno cyfle i ddod â'u gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd at ei gilydd er mwyn cynorthwyo drwy ddarparu help a chyngor i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog.
Er mwyn cysylltu â Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog, Finola Pickwell, e-bostiwch LLuoeddArfog@npt.gov.uk
Sut gallaf ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnaf?
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer cymuned y lluoedd arfog sydd ar gael gan y llywodraeth leol, Y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau'r trydydd sector.