Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi'r gymuned wasanaethu yn eu hardal a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.

I Ddinas a Sir Abertawe a sefydliadau partner, mae'r Cyfamod Cymunedol yn rhoi cyfle iddynt roi eu gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd ar waith wrth ddarparu cymorth a chyngor i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae hefyd yn rhoi cyfle i adeiladu ar waith da presennol a mentrau eraill megis y Llwybr Lles.

Sut gallaf gael y cymorth y mae ei angen arnaf?

Mae amrywiaeth eang o wasanaethau sydd wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer cymuned y lluoedd arfog sydd ar gael o'r llywodraeth leol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau trydydd sector, ond yn aml gall fod yn anodd dod o hyd i'r sefydliadau gorau i helpu.

I wneud pethau'n haws i ddefnyddwyr, defnyddiwch ein Gwasanaeth Llyfrgell y Lluoedd Arfog i ddod o hyd i sefydliadau cenedlaethol a lleol a fydd yn gallu eich helpu drwy roi cyngor ar bynciau megis addysg, budd-daliadau, cefnogaeth ofal, gyrfaoedd, cefnogaeth ariannol, pensiynau, benthyciadau a lles yn gyffredinol. Mae cyfeiriadau e-bost a gwefannau ar gael drwy glicio ar fotwm. 

Cysylltiadau allweddol

I'r rhai ohonoch sydd am gael manylion am ysgolion lleol, deintyddion, llyfrgelloedd, fferyllfeydd etc yn Ninas a Sir Abertawe ac ardaloedd cyfagos, defnyddiwch ein tudalen cysylltiadau allweddol.

Y Cynllun Grantiau Cyfamod Cymunedol

Mae Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol yn rhoi cefnogaeth ariannol i brosiectau lleol sy'n atgyfnerthu'r cysylltiadau neu'r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau cymuned y Lluoedd Arfog a'r gymuned ehangach lle maent yn byw.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Gynllun Grantiau'r Cyfarmod: Sut mae gwneud cais.

 

Siaradwch ag un o'n haelodau staff gwybodus yn y cyngor a fydd yn gallu mynd i'r afael â'ch holl ymholiadau: 01792 636000.

Llyfrgell Gwasanaethau'r Lluoedd Arfog

Dewch o hyd i gyngor, grwpiau a chyfleoedd.

Tudalen Cysylltiadau Allweddol

Elusennau a all ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Cronfa Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog Abertawe 2023/24

Mae cyllid wedi dod ar gael i Abertawe o gyllideb Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Stewart, i gefnogi cyn-filwyr.

Y Gwasanaeth Disgownt Amddiffynwyr newydd

Cefnogi Cymuned Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr a Lluoedd Arfog y DU.
Close Dewis iaith