Rhaglen Amlinellol Strategol Addysg o Safon / Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
Ym mis Chwefror 2024, cymeradwyodd y Cabinet y blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer Rhaglen Amlinellol Strategol Addysg o Safon / Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Nodau'r rhaglen naw mlynedd yw:
- Mynd i'r afael â lleoedd gwag / digonolrwydd.
- Cynnal neu leihau costau rhedeg refeniw.
- Cynnal neu wella'r ddarpariaeth addysg.
- Cynnal neu wella'r ddarpariaeth ADY / cydfynd â'r strategaeth ADY.
- Cael effaith gadarnhaol ar addysg Gymraeg, a chyd-fynd â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
- Cynnal neu leihau amserau / pellterau teithio.
- Lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni.
- Gwella cyflwr / addasrwydd.
- Helpu i leihau carbon.
- Cyd-fynd â rhyngddibyniaethau, e.e. meysydd blaenoriaeth eraill / Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
- Cynyddu hyblygrwydd asedau / defnydd cymunedol.
Mae angen i'r buddsoddiad adlewyrchu'r heriau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu o hyd, er gwaethaf yr effaith sylweddol y mae'r rhaglen buddsoddi mewn ysgolion wedi'i chael eisoes, er enghraifft:
- Trawsnewid amgylcheddau dysgu, gan gefnogi'r safonau addysgol cadarnhaol yn ysgolion Abertawe;
- Lleihau'n sylweddol yr ôl-groniad cynnal a chadw adeileddol a chael gwared ar yr anghenion gwaethaf o ran cyflwr adeileddol a nodwyd yn flaenorol;
- Cynyddu'n sylweddol nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg cynradd ac uwchradd i ymateb i nodau'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg; a
- Chael gwared ar leoedd gwag.
Bydd cyflawni prosiectau'r rhaglen yn dibynnu ar gymeradwyo achosion busnes unigol, cymeradwyo cyllid, a phrosesau ymgynghori statudol mewn rhai achosion.
Cyfanswm cost cyfalaf amcangyfrifedig y rhaglen yw £416,746,197; amcangyfrifir y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm cyllid gwerth £304,606,433 os oes cymeradwyaeth, ac amcangyfrifir y bydd cyllid lleol yn cyfrannu £112,139,764. Daw'r cyllid lleol o sawl ffynhonnell, gan gynnwys cyfraniadau datblygwyr, derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau a gynorthwyir yn wirfoddol a benthyca darbodus.
Cyhoeddir gwybodaeth fanylach am brosiectau unigol wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.