Toglo gwelededd dewislen symudol

Y broses adrodd a thalu

Telir cyllid yn uniongyrchol i leoliadau ar sail nifer y plant cymwys sy'n mynychu'r lleoliad ar gyfer oriau o ofal plant heb fod dros 20 awr yr wythnos, neu 30 awr yn ystod y gwyliau.

Telir arian i'r lleoliad un mis ymlaen llaw ar gyfradd o £4.50 yr awr, fesul plentyn. Dim ond person(au) awdurdodedig y lleoliad sy'n gallu hawlio'r cyllid.

Bydd cyfnod 8 wythnos o eithrio rhag talu ar gyfer teuluoedd sydd wedi profi newid yn eu hamgylchiadau sy'n golygu nad ydynt yn gymwys i dderbyn cyllid. Rhaid i'r darparwr gofal plant roi gwybod i Ddinas a Sir Abertawe am newid yn amgylchiadau teulu, ac y dylai hon fod yn broses ddwy ffordd.

Dylai'r ffurflen hawlio gael ei chwblhau'n llawn gyda manylion y plentyn/plant cymwys, sef enw llawn y plentyn/plant, y Cyfeirnod Unigryw a chyfanswm nifer yr oriau a'r diwrnodau o ofal plant a ddefnyddiwyd fesul wythnos (ni chaniateir i hyn fod yn fwy na 20 awr fesul plentyn cymwys, fesul wythnos).

Bydd Dinas a Sir Abertawe yn talu hyd at y fyfradd uchaf yr awr a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, a hynny am hyd at 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor neu 30 awr yn ystod y gwyliau. Telir y grant yn uniongyrchol i'r darparwr gofal plant. Rhaid i'r rhiant/gofalwr dalu am unrhyw gostau ychwanegol.

Gwneir pob taliad un mis ymlaen llaw o dderbyn anfoneb (a gyflwynwyd i Gyngor Dinas a Sir Abertawe) a chofrestr fisol neu brofion eraill sy'n dangos presenoldeb y plentyn. Gofynnir i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen manylion banc ynghyd a'ch ffurflen datganiad. Cwblhewch a dychwelwch eich ffurflen manylion banc ynghyd a'ch ffurfflen datganiad.

Rhiad i'r rhiant/gofalwr roi gwybod i Ddinas a Sir Abertawe yn ysgrifenedig os bydd unrhyw gorff arall yn cynnig cyllid at yr un diben ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y grant.

Bydd Dinas a Sir Abertawe yn cynnal gwiriadau tymhorol i gadarnhau bod teuluoedd yn dal yn gymwys i dderbyn cyllid, a bydd yn cyfeirio at y canllawiau o ran cyfnodau o Eithrio Dros Dro.

Mae pob ffynhonnell arall o gyllid wedi cael ei hystyried, ac nid oes cyllid ar gyfer ffioedd gofal plant yn cael ei dderbyn o unrhyw ffynhonnell arall.

Er mwyn hysbysu Llywodraeth Cymru ynghylch y nifer sy'n manteisio ar y cynnig, gofynnir i ddarparwyr gofal plant lenwi ffurflenni gwerthuso a monitro misol, gan ddarparu ciplun o'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig yn gyffredinol.

Cyfnodau eithrio dros dro

Bydd cyfnod Eithrio Dros Dro o 8 wythnos yn berthnasol pan fydd rhieni'n peidio a bod yn gymwys.

Gofynnir i rieni gadarnhau eu bod yn dal yn gymwys i dderbyn y cynnig ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn. Disgwylir i rieni roi gwybod i Ddinas a Sir Abertawe a'u darparwr gofal plant pan fydd eu hamgylchiadau'n newid.

O'r adeg pryd bydd amgylchiadau'r rhaint yn newid, gan olygu nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynnig, os bydd rhieni'n methu rhoi gwybod ar unwaith i Ddinas a Sir Abertawe nad ydynt bellach yn gymwys ar gyfer y cynnig, ac yn aros nes eu bod yn cael eu hatgoffa i wneud hynny, bydd y cyfnodau eithrio dros dro yn rhedeg o'r adeg pryd y dechreuodd eu hanghymhwystra.

Close Dewis iaith