Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwydded siop rhyw a sinema

Os bydd mangre'n gweithredu fel siop ryw neu sinema ryw, bydd angen trwydded gan yr awdurdod hwn arni.

Siopau rhyw yw unrhyw fangreoedd sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw. Sinema ryw yw lleoliad sy'n dangos ffilmiau rhywiol eu naws i aelodau'r cyhoedd.

Bydd y drwydded yn cynnwys amodau i gynnal diogelwch y choedd a gwedduster a hefyd i sicrhau mai pobl dros 18 oed yn unig sy'n cael mynediad. Rhaid i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o'u cais drwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

I gael mwy o wybodaeth am wneud cais, ffoniwch yr Is-adran Drwyddedu evh.licensing@swansea.gov.uk.

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen. 

Ffioedd

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud eich siec yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i hanfon ynghyd â'r ffurflen.

Ffioedd ar gyfer trwyddedau siopau rhyw a sinemâu
Math o drwyddedCaisCaniatâdCyfanswm
Lleoliad adloniant rhywiol£1403£203£1606
Siop ryw£1310£203£1513
Adnewyddu siop ryw£270£818£1088

Caniatâd dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio gerbron Llys yr Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad.

Close Dewis iaith