Toglo gwelededd dewislen symudol

Pontydd Pwyso

Caiff pontydd pwyso eu gosod yn y ddaear er mwyn gallu pwyso cerbydau a'u cynnwys. Yn aml, rheolir pontydd pwyso gan gwmnïau preifat sy'n eu cyflwyno i aelodau'r cyhoedd.

Cyfyngir cerbydau i uchafswm pwysau a nodir, fel arfer, gan y gwneuthurwr. Gall swyddogion yr Heddlu a Safonau Masnach gynnal gwiriadau dirybudd ar gerbydau i sicrhau eu bod yn is na'r uchafswm pwysau. Mae gorlenwi cerbyd yn erbyn y gyfraith.

Os ydych yn dymuno rheoli pont bwyso fel Pont Bwyso Gyhoeddus, rhaid i chi feddu ar drwydded. Byddwch hefyd yn cael eich asesu i sicrhau y gallwch reoli'r bont bwyso'n foddhaol a chwblhau unrhyw ddogfennau angenrheidiol.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cysylltwch â Safonau Masnach gan ddefnyddio'r manylion isod os ydych am gyflwyno cais am dystysgrif pont bwyso gyhoeddus. Gallant hefyd anfon copi o'r ffurflen gais atoch y dylech ei dychwelyd ynghyd â'r ffi.

Pontydd Pwyso yn Abertawe

Rhestrir pontydd pwyso Abertawe isod. Cysylltwch â'r safle'n uniongyrchol i gael gwybod am amserau agor, y cyfyngiad pwysau ac unrhyw ffioedd y mae'n rhaid i chi eu talu.

Enw a chyfeiriad y bont bwyso gyhoeddus
EnwCyfeiriadRhif ffôn cyswllt
Safle ByrnuSafle Byrnu, 6 Clôs Ferryboat, Parc Menter, Llansamlet, Abertawe SA6 8QN 01792 796886

Nid oes gan y pontydd pwyso canlynol drwydded at ddefnydd cyhoeddus:

Enw a chyfeiriad pontydd pwyso eraill
EnwCyfeiriad
Safle Tirlenwi Tir JohnHeol Dan-y-graig, St Thomas, Abertawe SA1 8NS
Griffiths RecyclingJR Works, Bryntywod, Llangyfelach, Abertawe SA5 7LE
Derwen PlantCei Mynachlog Nedd, Sgiwen, Castell-nedd SA10 6BL
Stenor EnvironmentalDoc y Brenin, Abertawe SA1 8QT
EPS Environmental Practical SolutionsDepo'r Trên Llwythi, Twyni Crymlyn, Abertawe SA1 8PX

 

Enw a chyfeiriad delwyr metel sgrap
EnwCyfeiriad
Abertawe Metals15 Clôs Dyffryn, Ystâd Ddiwydiannol Abertawe, Abertawe SA6 8QG
EPS Environmental Practical SolutionsCei Graigola, Doc y Brenin, Abertawe SA1 8QT
DBC Site ServicesUned 7 Ystâd Ddiwydiannol Players, Clydach, Abertawe SA6 5BQ
AJT RecyclingYstad Ddiwydiannol Felin-fach, Abertawe, SA5 4HF

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gofrestr o'r holl fasnachwyr metel sgrap trwyddedig yng Nghymru. Gallwch chi weld y gofrestr ar y wefan (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith