Ymchwil i dwristiaeth ac ystadegau amdano
Dyma rai ffeithiau a ffigurau cyflym am werth twristiaeth ym Mae Abertawe:
Crynodeb o ymchwil STEAM 2019
- Gwariant: £461.48 miliwn (+ 0.6% ers 2018)
- 4.74 miliwn o ymwelwyr â'r ardal (- 0.7% ers 2018)
- Nifer y swyddi a gefnogir: 5,897 (+ 2.5% ers 2018)
Rydym yn defnyddio STEAM (Model Gweithgarwch Twristiaeth Economaidd Scarborough) i fonitro hyd a lled twristiaeth a thueddiadau ym Mae Abertawe.
Gallwch lawrlwytho copi o Grynodeb Gweithredol STEAM 2019 ar waelod y dudalen hon.
Arolwg Ymwelwyr 2019
Mae'r canlyniadau o'n Harolwg Ymwelwyr 2019 ar gael yn y cyflwyniad isod:
Key Findings from 2019 Visitor Research (PDF) [953KB]
Ein hymwelwyr
- Pobl hŷn cefnog y mae eu plant wedi gadael y nyth 45+ oed
- Parau cefnog sydd wedi ymddeol yn gynnar 45+ oed
- Pobl broffesiynol gefnog iau 25 - 45 oed
- Teuluoedd incwm canolig â phlant
- Busnesau a grwpiau
O ble y daeth ymwelwyr
Y DU: Canolbarth Lloegr, Llundain, y de-ddwyrain, Coridor yr M4, y De-orllewin a rhannau eraill o Gymru.
Tramor: UDA, yr Almaen, Ffrainc, Awstralia, Iwerddon a'r Iseldiroedd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Twristiaeth drwy ffonio 01792 635217 neu e-bostio michelle.grove@abertawe.gov.uk.