Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynnal busnes twristiaeth - awgrymiadau da

Gwybodaeth am sefydlu busnes twristiaeth neu weithredu busnes twristiaeth sydd eisoes yn bodoli.

Yn yr adran hon:

  • Cael eich Graddio/Rhestru gan Croeso Cymru
  • Sefydlu busnes newydd
  • Beth yw Asesiad Effaith Datblygiad ac Anghenion Twristiaeth (AEDAT)?
  • Sut i ysgrifennu Datganiad Mynediad
  • Arwyddion Brown ar gyfer Busnesau Twristiaeth

Cael eich Graddio/Rhestru gan Croeso Cymru

Mae Croeso Cymru'n cynnal cynlluniau graddio swyddogol ar gyfer busnesau twristiaeth yng Nghymru.

Mae'r sêr graddio'n arwydd cydnabyddedig o safon. Maent yn rhoi sicrwydd i westeion bod eich busnes llety wedi gael ei archwilio'n drylwyr cyn iddynt gyrraedd. Os nad ydych chi am dderbyn sêr graddio, mae'r cynllun rhestru ar gael i bob lety ac atyniad twristiaid yng Nghymru. Mae'n rhatach na'r broses lawn o raddio safon â sêr.

Gall atyniadau gofrestru ar gyfer Cynllun Safonau Atyniadau Ymwelwyr Croeso Cymru (VAQAS) ond bydd angen i weithredwyr gweithgareddau hunan-ardystio eu manylion achrediad gyda chynllun achrediad cenedlaethol cydnabyddedig.

Bydd yr holl fusnesau achrededig neu sydd wedi'u graddio/rhestru yn gymwys i gael eu rhestru ar wefan defnyddwyr Croeso Cymru. Byddwch hefyd yn gallu cofrestru ar gyfer pecynnau Croeso Bae Abertawe Cyngor Abertawe a chael eich rhestru ar wefan swyddogol y cyrchfan www.croesobaeabertawe.com yn ogystal â bod yn rhan o'n hymgyrchoedd marchnata i ddenu ymwelwyr i Fae Abertawe trwy'r flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth am fanteision cofrestru fel Partner Croeso Bae Abertawe, e-bostiwch Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk neu cofrestrwch eich busnes.  

Sefydlu busnes newydd

Mae Busnes Cymru'n darparu amrywiaeth o wasanaethau am ddim a rhai â chymhorthdal ar ran Llywodraeth Cymru i'ch helpu i ddechrau ar eich syniad am fusnes neu i helpu gyda chynlluniau busnes a chyfleoedd ariannu ar gyfer eich prosiect.

Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch angela.williams@businesswales.org.uk

Caniatâd cynllunio ac AEDAT (yn benodol ar gyfer datblygiadau twristiaeth)

Cyn i chi ddechrau unrhyw waith, cysylltwch â'n hadran gynllunio am gyngor ar ganiatâd cynllunio ac ymweliad cyn cyflwyno cais. 

Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn ystyried dechrau busnes newydd neu newid neu ehangu eich adeilad busnes. Hyd yn oed os ydych am ddechrau cynnig gwely a brecwast syml yn unig yn eich cartref neu ddefnyddio adeilad presennol fel bwthyn gwyliau heb unrhyw addasiadau adeileddol, gallai fod angen caniatâd cynllunio 'newid defnydd' i wneud hynny.

Yn aml, bydd gofyn i brosiectau sy'n ymwneud â thwristiaeth gyflwyno AEDAT (Asesiad Effaith Datblygiad ac Anghenion Twristiaeth) ynghyd â'u cais cynllunio. Amlinellir hyn ym Mholisïau Twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2020-2025. Gallwch weld y CDLl ar y dudalen Cynllunio Strategol yn: https://www.abertawe.gov.uk/cdll    

Mae paragraff 2.11.6 yr Is-adran Twristiaeth a Hamdden (tudalen 210) yn datgan y bydd yr wybodaeth sy'n ofynnol yn yr AEDAT yn gymesur i natur y cynnig, ei faint a'i leoliad. Fodd bynnag, fel trosolwg cyffredinol byddai'r mathau o wybodaeth ofynnol fel rhan o AEDAT yn cynnwys:

  • Tystiolaeth i gefnogi pam bod angen datblygiad o'r math hwn, er enghraifft, nid oes cyfleusterau neu safleoedd o'r math yn bodoli yn yr ardal leol, neu mae rhestr aros o bobl sydd eisiau defnyddio'r safleoedd llety i ymwelwyr yn y cyffiniau
  • Tystiolaeth i ddangos bod y cynnig yn ddichonol ac yn gynaliadwy fel busnes twristiaeth
  • Effaith ar y gymuned leol, er enghraifft, sut bydd y datblygiad yn cefnogi'r economi, nifer y swyddi a grëwyd, gwariant refeniw/ymwelwyr cynyddol yn yr economi leol
  • Os yw'n briodol, sut bydd effaith ar fusnes amaethyddol yn cael ei lliniaru, er enghraifft, llai o bori
  • Tystiolaeth o gyfradd yr eiddo gwag o fewn ardal ddaearyddol resymol, fel y cytunwyd gan y cyngor, er mwyn arddangos unrhyw angen sylweddol heb ei ddiwallu
  • Galw
  • Asesiad o lefelau rhagweladwy traffig cerbydau, y galw am fannau parcio a'r effaith ar ddiogelwch ffyrdd
  • Dangos bod y datblygiad o safon uchel gydag adeiladau cynaliadwy sy'n gwella'r hyn sydd ar gynnig i dwristiaid ar hyn o bryd
  • Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol, gan gynnwys manylion o liniaru priodol

Gallwch ffonio'r adran gynllunio i gael rhagor o gyngor ar 01792 635701 neu e-bostio cynllunio@abertawe.gov.uk.

Sut i ysgrifennu Datganiad Mynediad 

Datganiad ysgrifenedig clir, cywir a gonest o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau rydych chi'n eu cynnig yw Datganiad Mynediad (neu Arweiniad Hygyrchedd). Mae'n eich helpu i gyfathrebu'ch cyfleusterau a'ch gwasanaethau i bobl anabl a chwsmeriaid eraill sy'n chwilio am wybodaeth benodol am hygyrchedd, megis teithwyr hŷn a theuluoedd â phlant ifanc.

Bydd manylu ar hygyrchedd eich lleoliad mewn Datganiad Mynediad yn galluogi'r bobl hyn, eu teuluoedd a'u ffrindiau i wneud penderfyniadau gwybodus mewn perthynas â ble i aros a ble i ymweld ag ef wrth ystyried eu hanghenion unigol.

Mae angen ystyried mwy na materion corfforol yn unig, mae angen ystyried nodweddion synhwyraidd megis addurniadau, goleuadau etc.

Mae'r Datganiad Mynediad yn ddogfen fyw ac mae angen ei diweddaru'n rheolaidd. Dylai gynnwys lluniau a mesuriadau yn ddelfrydol.

Gellir dod o hyd i arweiniad ac enghreifftiau o Ddatganiadau Mynediad ar wefan Visit Britain yn ogystal ag yn y Canllaw Defnyddiol gan Croeso Cymru isod:

 Canllaw Defnyddiol Croeso Cymru ar Ddatganiadau Mynediad (PDF, 87KB)

Mae'r RNIB wedi rhannu rhai syniadau am sut y gallwch gefnogi'r profiad o siopa i gwsmeriaid dall a rhai â golwg rhannol yn ystod pandemig COVID-19. Lawrlwythwch arweiniad byr a defnyddiol yr RNIB.   

Arwyddion Brown ar gyfer Busnesau Twristiaeth

Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu polisi ffurfiol i fusnesau ei ddilyn os ydynt am wneud cais am arwyddion twristiaeth brown a gwyn. 

Yn gyntaf, asesir ceisiadau yn erbyn meini prawf twristiaeth sylfaenol i gadarnhau a yw'r ymgeisydd yn gymwys, er enghraifft a yw'r busnes wedi'i raddio, a yw'n denu'r nifer gofynnol o ymwelwyr bob blwyddyn, a oes ganddo'r cyfleusterau addas i ddarparu ar gyfer niferoedd mawr, etc. Mae angen i bob busnes twristiaeth ddangos y bydd yr arwyddion yn cael eu defnyddio i helpu i gyfeirio pobl i'r lleoliad yn hytrach na hyrwyddo'r busnes.

Os yw'r busnes yn bodloni'r meini prawf o safbwynt twristiaeth, caiff ei drosglwyddo i'r tîm priffyrdd i'w asesu. Byddant yn ystyried elfennau gwahanol a allai effeithio ar gymhwysedd y busnes ar gyfer arwyddion, er enghraifft os gellir rhoi arwyddion ar y briffordd, sawl arwydd y mae ei angen, etc. Os yw busnes yn llwyddiannus ar y ddau gam, bydd yn derbyn dyfynbris ffurfiol ar gyfer yr arwyddion. Mae angen i ymgeiswyr dalu am yr holl gostau sy'n ymwneud â chael yr arwyddion gan gynnwys ffi weinyddol o £100 na ellir ei had-dalu ac unrhyw gostau cynnal a chadw yn y dyfodol.

E-bostiwch Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth.