Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymuned yn croesawu cyllid ardal chwarae

Mae cyllid ar gyfer ardal chwarae newydd ym Mayhill wedi cael croeso cynnes gan y gymuned.

Bydd Parc Mayhill, yn ogystal â nifer o barciau eraill ar draws Abertawe, yn elwa o fuddsoddiad gwerth £2m mewn cyfleusterau chwarae gan Gyngor Abertawe.

Sefydlwyd Grŵp Cyfeillion ym Mayhill gan y gymuned ac mae wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr a swyddogion i ddarparu'r prosiect, gyda gwaith i ddechrau yn nes ymlaen eleni.

Meddai sylfaenydd y grŵp, Joe Clutton, "Byddwn yn gwneud defnydd da iawn o'r arian hwn a'r peth pwysicaf yw bod y plant yn cael eu cynnwys yn y dyluniad a'r hyn sy'n cael ei osod yno.

"Ers i ni ddechrau rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y cyngor a'r cynghorwyr, wrth sefydlu'r grŵp ac o ran sut i'w reoli.

"Bu ychydig o oedi i'r gwaith o ganlyniad i COVID-19 ond nawr mae teuluoedd/pobl yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei adeiladu."

Ychwanegodd Bethan McGregor, Cydlynydd Ardal Leol, "Gan fy mod wedi cefnogi Cyfeillion Parc Mayhill ers iddynt ddechrau ac wedi bod yn bresennol yn eu digwyddiadau, rwy'n gwybod bod y gymuned am gael ardal chwarae newydd a diogel i'w plant a'u pobl ifanc."

Mae'r ardal chwarae'n rhan o gasgliad o fuddsoddiadau mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden, ffyrdd, yr amgylchedd a busnesau ym Mayhill a'r ardaloedd cyfagos.

Mae'r gronfa chwarae £2 eisoes wedi hybu cymunedau eraill gyda chynlluniau i wario o leiaf £36,000 ym mhob ward yn Abertawe ar wella cyfleusterau neu osod cyfleusterau newydd.

Bydd plant yn Nynfant, Tre-gŵyr, Pontybrenin a Llanyrnewydd yn cael hwb dros yr haf gydag ardaloedd chwarae gwell. Cwblhawyd gwaith hefyd yn lle chwarae Knoyle a lle chwarae Parc yr Helyg.

Mae gwelliannau'n parhau mewn lleoedd fel Parc Ravenhill, Parc Williams, Parc Montana, Weig Fawr a St Thomas ac maent fel arfer yn cymryd hyd at chwe wythnos i'w gosod gyda gwaith yn cael ei wneud gan amrywiaeth o gontractwyr ar ran y cyngor.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ystod y pandemig mae ardaloedd chwarae lleol wedi bod yn hafan ar gyfer pobl ifanc a'u rhieni sydd am wneud ymarfer corff a chael awyr iach mewn amgylchedd diogel.

"Roedd Cyngor Abertawe yn gweithio ochr yn ochr â phreswylwyr lleol gan helpu i gyflawni hynny. Nawr wrth i ni ddechrau adfer o'r pandemig rydym am annog pobl ifanc i barhau gyda'u harferion chwarae - a dyma'r rheswm dros y buddsoddiad mewn ardaloedd chwarae."

Mae'r ddinas yn gartref i 86 o leoedd chwarae. Mae gwaith uwchraddio'n dechrau'n fuan yn y lle chwarae ger Llyn Cychod Singleton gyda rhai eraill yn dechrau'n nes ymlaen eleni yn Nhreforys, Cilâ Uchaf, Cwmbwrla yn ogystal â Mayhill.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Bydd pob ward yn Abertawe yn elwa o fuddsoddiad ardaloedd chwarae. Rydym yn gweithio gydag aelodau ward ym mhob cymuned i sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio yn yr ardaloedd chwarae y mae ei angen arnynt."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021